Difyrrwch Aelwyd a Hen Chwaraeon Plant

Serah Trenholme, Nefyn

Serah Trenholme (1887–1980) yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf
Serah Trenholme (1887–1980) yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf, Mawrth 1976.

Yn hogan fach yn Nefyn cofiai Serah Trenholme ganu gyda'i rhieni:

Si hei babi,
Cysgu efo Dadi;
Gneud i Mam godi
I wneud te a choffi!

Yr un modd, cofiai am ei rhieni'n 'chwarae' gyda'i hwyneb:

Beili Cwrt Bach yn rhoi cnoc ar y drws (talcen),
Yn canu'r gloch (y glust),
Sbïo drwy dwll y clo (y llygad),
Agor y clicied (y trwyn),
Ac i fewn â fo (y geg).

Dro arall, gafaelai ei thad ym mysedd ei thraed a dweud:

'Ddôi di i'r mynydd?' medda Modryb Bawd.
'Beth wnawn ni yno?' medda Bys yr Uwd.
'Dygud defaid', medda Pen o Gogor.
'Cawn fynd i'r jêl', medda Bys y Peipar.
'Rhedwn, rhedwn, rhedwn', medda Robin Gewin Bach.

Pan ddaeth ychydig yn hŷn, roedd bri arbennig ar adrodd posau neu ddychmygion. Dyma ddau o blith cruglwyth mawr:

Dychymyg, dychymyg, mi gollais fy mhlant,
Fesul wyth ugain a fesul wyth cant;
Dychymyg, dychymyg, fy mhlant ddaeth yn fyw,
Dyna ddychymyg na ddyfeisiwch yn eich byw.

(A'r ateb? Coeden yn bwrw'i dail.)

Deudroed ar y trithroed yn crafu'r troed.
Daeth y pedwartroed heibio ac a gipiodd y troed.
Y deudroed afaelodd yn y trithroed ac a drawodd y pedwartroed,
Ac fe gafodd y deudroed y troed!

(Dyn yn eistedd ar stôl drithroed yn crafu coes mochyn, a chi yn dod heibio ac yn cipio'r goes. Y dyn yn taro'r ci â'r stôl ac yn cael y goes yn ôl.)

Chwarae poblogaidd arall oedd 'Chwara Ffon Grât'.

'Fyddan ni'n licio ryw chwara rownd y tân, yn enwedig os bydda hi'n dywydd gwlyb ac oer yn y gaea' ... Ac os bydda'n mam ni wedi mynd i rwla a gadal ni i edrach ar ôl y tŷ, fydda raid i ni gael ryw ffrindiau i fiewn aton ni. A wedyn oeddan ni'n chwara Ffon Grât. "Be nei di i hwn?" meddan ni am un ffon grât. "A be nei di i hwn?" meddan ni am un arall ... A fyddan ni'n rhoid enw ryw genod neilltuol i bob un o'r ffyn grât 'ma. Ac amball dro pan fydda 'na rywun fyddan nhw'n ffond iawn ohonyn nhw, fyddan nhw am eu malu nhw'n dipia ac am roi cusan i'r mwya hyll! Fyddan ni'n cael lot o hwyl felly.'

Roedd amryw o'r chwaraeon a gofiai yn rhai dramatig ac yn cynnwys deialogau holi ac ateb neu rigymau byrion, arbennig o ddiddorol, i'w hadrodd, canu neu lafarganu. Dyma, er enghraifft, y cwestiwn ac ateb yn yr hen chwarae adnabyddus 'Pont y Seiri':

'Pwy ddaw, pwy ddaw drwy bont y seiri?'
'Y fi, y fi a'm holl gwmpeini:
Corn pres a phibell ganu.'

A dyma rigwm chwarae a elwid ganddi yn 'Chwara Little Dancy Bwnsi': 'plant yn gafael yn gwtin sgert un ferch, a honno ar ei gwyro yn gofyn i un o'r plant:

'Pwy sy rownd fy nhŷ i?'
'Little Dancy Bwnsi.'
'Be sy arnat ti eisio?'
'Eisio cyw!'
'Paid â chymryd un tew iawn.'
'Mi gymera i hwn!'

A'r ferch wedyn yn rhedeg i ddal pob un o'r 'cywion' yn eu tro.

Gwyddom yn dda, wrth gwrs, nad oes neb tebyg i blant am gynnal llên gwerin, cynnal - a chreu o'r newydd, gyda'u dychymyg byw a'u hiaith liwgar. Wrth dderbyn ac addasu does fawr o ots gan blant onid yw ystyr y geiriau bob amser yn amlwg, a cheir yn ein chwaraeon yn aml gymysgfa ryfeddol o Gymraeg a Saesneg a geiriau od disynnwyr. Iddynt hwy y mae sŵn lawn mor bwysig â synnwyr, sŵn a rhythm a phatrwm o ailadrodd bwriadus. Dyna, er enghraifft, y rhigwm a ganlyn gan Serah Trenholme pan fyddai dwy eneth yn dal eu dwylo y tu ôl ac yn symud o ochr i ochr:

Hali gwtshi, hali gwtshi,
Turn around a bwmpari;
Dwy ferch ifanc yn tŷ ni
Yn gwisgo gowne glas a du.

Ceir yr un gymysgfa hefyd mewn rhigymau a ddefnyddid i benderfynu pwy oedd i ddechrau chwarae, neu pa un o'r plant oedd i actio rhan arbennig. Dyma ddau o Nefyn:

Ficar a focar a dafna lêd;
Pistwn, paris, pose clêd;
Licis di cwtin crach,
Dos di allan leidr bach.

Ini, mini, meini, mo,
Jac y sina, sina, mo.
E I O U W ac Y.

Digwydd y ffurfiau 'Ini, mini, meini, mo ...' mewn fersiynau niferus ar hen ddull o gyfrif o un i ugain a ddefnyddid gynt, er enghraifft, gan fugeiliaid i gyfrif defaid. Cofnodwyd llawer o'r ffurfiau hyn yn Ne'r Alban a Gogledd Lloegr ac ychydig ohonynt yng Nghymru, ac yn arbennig yn sir Aberteifi.

Tâp: AWC 1983. Recordiwyd 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
Llsg.: AWC 2186/15.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.