Pastai Llongwr a Phwdin Reis Llongwr

Y Cadlynnydd John Penri Davies
Y Cadlynnydd John Penri Davies (cyhoeddwyd yn ei gyfrol o atgofion, Blas y Môr, Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).

Gan: Cadlywydd John Penri Davies, Cricieth

Allech chi ddeud wrtha i ryw ychydig am fel rodd llongwyr Porthmadog yn dod â bwyd gwledydd erill hefo nhw?

Ia. Odd yn frwydyr fawr mynd ar draws yr Iwerydd efo llwyth trwm o halan. Oddan nhw'n amal yn colli dyn drost y bwrdd ac yn boddi mewn tymestl. Odd rhaid cal dirprwy, oherwydd bod y criw mor fychan. Ac odd o bron yn amhosibl i gal Sais na Cymro fel dirprwy yn Newfoundland, ond be oddan nhw'n gal odd morwr o Portiwgal odd wedi cal 'i anafu, ne wedi cal 'i roid mewn ysbyty, achos oddan nhw'n pysgota lawar iawn ar y Grand Banks, Newfoundland, ac wrth gal 'i anafu efo'r cyllyll oddan nhw'n llnau y pysgod efo nhw, oddan nhw bob amsar yn medru cal dyn o Portiwgal i ddirprwyo. A gwaith y mate odd i fynd i ddeud wrth y Capten:

'Wel, ma Carlos newydd landio. Be dach chi isio fo neud?'

'Wel, rhowch o yn y gali i neud bwyd am ryw bythefnos i ddŵad i nabod y criw ac ati, a pidwch â gadel iddo fynd i fyny i ben yr hwylbren, ne hwyrach gna ddatod rwbath na ddyla fo, a hwyrach daw o ac un ne ddau o'r criw i lawr i ddistryw', medda fo.

Ac am fod y cryduriad yma'n methu siarad Saesneg na Cymraeg, a hogia ninna'n methu siarad Portiwgîs, i gal dipyn bach o ryw fantais, oddan nhw'n gneud blasfwydydd Portiwgal. A mi odd morwyr Porthmadog yn 'i weld mor dda ar ôl yr hen gig hallt ac yn y blân. Dos dim dadl bydda'r morwyr yn deud, 'Wel, dyma wledd ma Carlos wedi neud. Mae o mor dda rydw i mynd i gal y risêt gynno fo, a mi ddysga'i sut i neud, a mi â i adra at Kate Ann, y wraig, rag ofn fydd raid i honno 'i neud o i mi.' A mi ddoth 'na fwydydd o Portiwgal felly i Borthmadog.

Ac fe gallach fynd i gartra morwr yn Porthmadog a cal pastai llongwr wedi'i neud efo penfras hallt wedi cal 'i llarpio a'i chymysgu efo tatws a wynwyn, a bisgedins calad y llong wedi socian, a rhoid haen ar ben ei gilydd. A wedyn rhoi tuniad o domatos a roid hi mewn popty poeth am ryw hannar awr. A wedyn digon o bupur du, ddim pupur gwyn, pupur du bob amsar - pastai llongwr.

A wedyn pwdin reis llongwr i darfod hi. Cwpanad o reis, dwy gwpanad o laeth, a llaeth gafr fydda bob amsar gin fy Nain.

'Pam?' medda fi.

'Wel, ma siwgwr yn ddrud wsti', medda hi, 'a ma llaeth gafr mwy melys, ti'n gweld.'

A wedyn oddan nhw'n lled berwi hwn mewn sgelet bach a croen hannar lemon, byth yn rhoi sudd, oherwydd odd o ddim yn gneud yn iawn. A fydda 'i thad hi'n dŵad â ryw lemon a ryw betha fel hyn pan fydda fo mynd i Gaerdydd, a dod â nhw adra efo fo yn llong bach. A wedyn, ar ôl iddo fo feddalu, os odd o'n ffyrm, yn gry' wsti, mi fydda mam yn curo tri melynwy wy, ddim gwynwy, a'i dollti o'n ara deg i'r sgelet, a'i droi o, wyw i ti roid o mewn i gyd, raid i ti roid o'n ara deg a dal i droi. Wedyn, rhoid y sgelet yn ôl ar y tân a codi'r tymheredd a'i led ferwi o. Ei dollti o i ddesgil fâs, a wedyn odd o'n cledu fath â'r hen gacen bwdin. Ac er mwyn 'i flasuso fo, sinamon ar hyd yr ymylon ac yn groesymgroes fel hyn. Ac wedyn oddan ni'n cael tameidia ohono. A dyna lle byddan ni amball waith yn mynd i'r stryd, fel 'san ni'n chwara mouth organ, a'i fyta fel hyn. [Gwneud sŵn lapswchan mawr.] Duw, odd o'n dda wsti! A bwyd o Portiwgal. Ac odd hannar y bobl ddim yn gwbod yn iawn o lle odd o wedi dŵad, ylwch. Ond felly doth y bwydydd 'ma i Borthmadog. Ia.

Tâp: AWC 4630. Recordiwyd 10.vi.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Capten John Penri Davies, Glasnant, Cricieth. Ganed: 31.vii.1900, Bristol House, Porthmadog.
Gwaith: Capten llong (cadlywydd / commander); rheolwr stordy rhewgelloedd. Bu hefyd yn cadw gwesty.
Bu'n byw yn Lerpwl am rai blynyddoedd a threulio nifer o aeafau yn byw yn Sbaen.
Awdur Blas y Môr (Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).