Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Hybu'r diwylliant Cymreig

Hanes yr Eisteddfodau
Hanes yr Eisteddfodau

Fe fuodd Eisteddfodau'r Fenni y pethau mwya' lliwgar posibl. Fe godwyd neuadd arbennig yn Y Fenni ar gyfer eu cynnal nhw, oherwydd roen nhw mor boblogaidd. Mi roen nhw'n eisteddfodau hysbysebol, achos mi roedd diwylliant, os mynnwch chi, y Cymry yn Y Fenni, yn dod i'r llwyfan arbennig yma. Mi roen nhw hyd yn oed yn rhoid sylw i'r diwydiant gwlân lleol. Pan fyddai Gwenynen Gwent yn mynd ar ei theithiau i Ewrop, roedd hi'n mynd â gwlanenni Y Fenni gyda hi, i hysbysebu eu gwerth nhw yn y tai crand a hyd yn oed llysoedd draw yng ngwledydd Ewrop. A doedd hi byth, wrth gwrs, yn colli cyfle i argyhoeddi pobol fod y diwylliant gwerinol yng Nghymru yn beth arbennig iawn.

Roedd hi'n cadw telynorion, roedd gyda hi bartïon o ddawnswyr i gael yn y plas yn Llanofer. Ac er fod yr iaith Saesneg wedi chwarae rhan amlwg yn yr eisteddfodau hynny hefyd - shwd allai hi beidio? Oherwydd mi roedd yr hen Wenynen yn troi, os mynnwch chi, ymhlith y crach, ac yn llwyddo i gael rheiny i roi'r gwobrau hael yma. Fe fyddech chi'n disgwyl bod yna gryn dipyn o le i'r iaith Saesneg. Ond ar y llaw arall, roedd gyda chi hen arwr godidog fel Thomas Price, Carnhuanawc, y gŵr a ymladdodd mor gadarn yn erbyn celwyddau y Llyfrau Gleision, er enghraifft. Mi roedd gyda chi ŵr fel yntau a oedd yn daer iawn ei ymlyniad at y diwylliant Cymraeg, a does yna ddim un amheuaeth o gwbwl fod y deg eisteddfod a gynhaliwyd dan nawdd Cymreigyddion Y Fenni yn un o'r penodau mwya' llachar yn stori'r Eisteddfod.