Gwisg Llongwrs Porthmadog

Y Cadlynnydd John Penri Davies
Y Cadlynnydd John Penri Davies (cyhoeddwyd yn ei gyfrol o atgofion, Blas y Môr, Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).

Gan: Cadlywydd John Penri Davies, Cricieth

Dudwch i mi rŵan, yr odd gan y llongwyr yn Porthmadog ryw wisg arbennig, yndoedd?

Odd. Mi oddan nhw'n bobol falch iawn i gyd, oherwydd odd sôn am longau Porthmadog fel y llonga mwya destlus o'u math hwyrach yn Ewrop. Dach chi'n gweld, odd pump ne chwech o griw, a'r drafnidiath odd llechi i'r Almaen. Saith llong o bob deg odd yn mynd i borthladd Hamburg. Odd o fel ryw ail gartre i forwyr Porthmadog a Hambro oddan nhw'n 'i galw. Ac oddan nhw bob amsar yn cal gneud 'u sgidie yn Hambro, cal 'u gneud gin y cryddion a bliwtshars Hambro - oddan nhw'n galw nhw ar ôl yr hen General Blucher, ma'n siŵr. Dim crïa dach chi'n gweld, a fel dau strap i hala nhw i fyny, ac oddan nhw'n defnyddio darn o asgwrn i roi sglein arnyn nhw ac oddan nhw'n sgleinio ar ôl eu rhwbio nhw fel hyn efo'r asgwrn 'ma. Mi odd 'u trwsysa nhw bob amsar yn nefi blŵ, ond odd y gloch ddim ond o'r pen-glin i lawr. Odd o'n drwsys rheolaidd i'r pen-glin, ond yn crychio allan o hynny, o'r pen-glin i lawr. Odd y siaced yn ddwbwl bob amsar a tri botwm gloyw du, un bob ochor, rhei yn gwisgo jansi wedi cal 'u gneud gan 'u gwragedd, a'r lleill crys gwyn a tei du, a cap â pig bob amsar. Ond oddan nhw ddim yn licio pig â sglein, pig â brodwaith wedi roi drosto fo fel hyn, a hwnnw dipyn bach ar un ochor.

A dyna chi beth bendigedig odd gweld llong ne ddwy yn talu ffwrdd ar ôl mordaith hir, mynd i'r shipping office yn un pen i Borthmadog, cal eu tâl, mynd i'r hen dŷ tafarn, y Britannia Inn, cal dipyn o ddiod yn fanno, a bob un ohonyn efo ryw fath o offeryn. Ond offerynnau Môr y Canoldir, oherwydd bod nhw wedi prynu nhw'n rhad, y mandolin, y gitâr, a'r hen gonsartina, a fydden nhw'n dŵad ar hyd Stryd Fawr Porthmadog a'r siopwrs i gyd yn curo dwylo. 'Well done, yr hen hogia. Ma'n annwl cal ych gweld chi nôl eto wedi bod i ffwr' mor hir.' A fyddan nhw mynd lawr drw'r Stryd Fawr ac i lawr am y Sportsman a'r Queen, ac yn 'i darfod hi felna. Oddan nhw werth 'u gweld, pawb yn lân ac yn daclus ac yn neis, 'dê. 'Dyma nhw'r homeward-bounders wedi cyrradd o'r diwedd.' Dyna fyddan nhw'n galw nhw, 'yr homeward-bounders'. Ia.

Tâp: AWC 4630. Recordiwyd 10.vi.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Capten John Penri Davies, Glasnant, Cricieth.
Ganed: 31.vii.1900, Bristol House, Porthmadog.
Gwaith: Capten llong (cadlywydd / commander); rheolwr stordy rhewgelloedd. Bu hefyd yn cadw gwesty.
Bu'n byw yn Lerpwl am rai blynyddoedd a threulio nifer o aeafau yn byw yn Sbaen.
Awdur Blas y Môr (Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).