Penfreision Hallt a Bisgedins Caled

Gan: Cadlywydd John Penri Davies, Cricieth

Yr 'Heathfield'
Yr 'Heathfield', y llong gyntaf i John Penri Davies hwylio arni.

Odd bwyd y llongwyr wedi dylanwadu dipyn ar fwyd pobol y porthladdoedd yng Nghymru?

O mi odd, yn enwedig yn Borthmadog, oherwydd odd mwy o longau Porthmadog yn mynd trosodd i Newfoundland a Labrador nag o ddim un porthladd arall yn Brydain Fawr, fyswn i'n deud. Y rheswm am hyn odd bod tua chwech deg o bob can tunall o lechi odd yn cal 'u allforio o Borthmadog yn mynd i'r Almaen. A hen enw Porthmadog am Hamburg, y prif borthladd, odd Hambro. Dyna fydda'r merchaid yn ei alw fo, a'r morwyr i gyd, a mi ddoth llonga Porthmadog mor adnabyddus odd o ddim byd i weld dwsin o longa bach Porthmadog yn borthladd Hambro yn yr un adeg. Mi odd yr Almaenwyr yn or-garedig wrthyn nhw, oherwydd ar ôl dadlwytho'r llechi mi odd llawar o'r ships brokers yn mynd allan o'u ffor' i chwilio am lwyth bach iddyn nhw i lawr i Sbaen ffor' 'na. Ac ar ôl cal mynd cyn bellad, mi oddan nhw'n mynd yn sdrêt i Cadiz, yn de orllewin Sbaen, am lwyth o halan, halan odd wedi cal 'i neud o ollwng dŵr halld y môr i lynnau bach a gadal yr haul godi'r dŵr ymaith a gadal yr halan ar y gwynab ac yn 'i grafu fo. Dwi wedi gweld nhw yno'n 'i grafu o a gneud pentwr mawr o'r halan 'ma. Fysach chi'n meddwl bod chi'n gweld pen mynydd ac eira arno fo o bell.

Wel, oddan nhw'n mynd draw o Cadiz efo'r halan 'ma ac oddan nhw'n gorod mynd i'r un porthladd, St Johns, for orders er mwyn iddyn nhw gal cyfeiriad lle i fynd, ac yn amal iawn odd y llwythi 'ma yn cal 'u gwerthu a'u hail-werthu tra odd o ar fwrdd y llong. A dyna odd y rheswm am fynd i'r un porthladd. A wedyn oddan nhw'n mynd yn amal iawn i fyny i Labrador, dadlwytho'r halan, a wedyn llwytho pysgod halld, cod fish. Y penfras odd y prif bysgodyn odd yn cal 'i lwytho a rheini'n bysgod mawr iawn. A mi odd 'na deuluoedd Ffrengig ac lawar iawn o Wyddelod a rheini wedi ryw gymysgu efo'r Escimo i fyny yn gogledd Labrador. A wedyn odd y pysgod halld 'ma rhan fwya ohono fo'n dŵad i Fôr y Canoldir ac yn cal 'u dadlwytho mewn porthladdodd efo henwau hwyrach mwy rhamantus na nunlla'n y byd, llefydd fel Malaga, Carthagena, Corinth, Smyrna, a llefydd fel hyn. Llawar o longau Porthmadog wedi bod bron yn bob porthladd buo'r Apostol Paul pan odd o'n gneud 'i waith cenhadol yn 'i gyfnod o 'i hun. Lawar ohonyn nhw wedi bod bron yn bob un ohonyn nhw, hyd yn oed yn Syracusa 'i hun. A dwi wedi clwad am forwyr Porthmadog bydda'n mynd yn agos i arfordir ynys Malta i weld y creigia odd yr Apostol Paul wedi cal llongddrylliad arnyn nhw. Fyddan nhw'n mynd â llong yn un swydd i ddangos i'r criw: 'Fama gafodd yr Apostol Paul 'i longddrylliad ar 'i ffor' i Rufain.'

Wel, rŵan, oherwydd bod nhw'n cymysgu efo morwyr Sbaeneg a morwyr Portiwgîs - a ma'n debyg bod nhw'n rhedag yn fyr o rwbath ac yn newid, cal dipyn o oel olewydd am goed tân, neu glo am gês o dunia o domatos ac yn y blaen. Ma'n debyg bod peth fel hyn wedi digwydd allan o rwystyr, a bod nhw wedi dŵad yn ffrindia ac yn cydmaru y dull o neud bwyd, a'r bwyd yn wael ofnadwy ac yn ofnadwy o undonog.

Beth odd bwyd y llongwr fel rheol ar fwrdd llong?

Bara calad, bisgedins oddan ni'n galw nhw yn Borthmadog, bisgedins. Ac oddan nhw'n cal 'u crasu ac yn grwn, rhan fwya'n grwn a rhai yn sgwâr, ryw dair modfadd sgwâr. A pan oddan nhw'n 'i rhoid nhw mewn tancia huarn, oddan nhw'n gorod para am chwe mis heb fynd yn ddrwg. Ond yn amal iawn mi odd y cynrhon yn cal iddyn nhw a'r pryfid, a'r morwyr yn gorod 'u byta nhw, er gwaetha, ar ôl tynnu'r pryfid, oherwydd nad odd dim byd yn sbâr.

Lle oddan nhw'n gneud y bara calad 'ma?

Wel, mi odd 'na ewyrth i nhad, John Davies Baker. Y fo fyswn i'n deud odd y cynta i neud bisgedins calad yn Bae Cardigan. Dwi ddim wedi clwad am nunlla odd yn gneud bisgedins calad yn bwrpasol at longau odd yn mynd i'r môr mawr ac yn mynd i ffwr' ymhell. A mi odd gin John Davies Baker gefndar, Rhys Davies, odd yn beilat llawn yn Porthmadog a ma'n debyg bod hwn yn deud wrth y capdeiniaid. Y cwestiwn cynta pan fydda llong yn dŵad o drosd y môr i Borthmadog ar ôl holi am iechyd pawb fydda, 'Sut ma'r bisgedins wedi para?' Dyna fydda'r cwestiwn pwysig. Oddan nhw wedi mynd yn ddrwg, neu oddan nhw wedi dal. A ma'n debyg y bydda Rhys Dafydd, y peilat, yn deud, 'Rhai Caerdydd, ne rhai Llundan, pam nei di drio rhai nghefndar, cymar chydig tro nesa a cer â nhw a cadwa nhw cyhyd â'r lleill i ti gal gweld os 'na ryw wahaniath'. A wir, mi odd bisgedins John Davies yn gystal, os nad dipyn yn well, a mi ddoth 'na fasnach fawr iddo neud hyn ar gyfar llonga fydda'n dŵad i Borthmadog. A dwi meddwl bod yr hen beirianna yn dal yn yr hen fecws. Wel, mi oddan nhw yno ugian mlynedd yn ôl, beth bynnag.

Ym Mhorthmadog?

Ym Mhorthmadog, 'Becws John Davies' oddan nhw'n alw fo.

Sut odd o'n neud y bara caled, ne beth odd ynddo?

Wel, dwi'n gwbod bod o'n gorod cal blawdiach neillduol. Odd raid iddyn nhw rhoid blawd gora, caleta. Ac oddan nhw'n tanio y popdy yn yr hen ddull traddodiadol. Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig ofnadwy hefyd, a dwi'n gwbod bod o'n rhoid toes ar damad o liain, fel hwyl llong, odd yn symud yn ara deg, ac odd y peiriant yn dŵad lawr ac yn torri siâp y bisgedan a dipyn o dylla mân. Dwn i ddim be odd y tylla, os na rwbath 'i addurno nhw, ta rwbath i adal y dŵr ac ati allan dipyn bach mwy cyflym na 'tysa'r tylla bach ddim yn'o fo, ond dyna'r cwbwl ydw i'n gofio.

Rhai bach tene odden nhw felly?

Nag oddan nhw. Tua hannar - hannar - modfedd o dewdwr a hwyrach ryw ddwy fodfadd a hanner o sgwâr, a rhai crynion, ma'n debyg, ryw dair modfadd ar draws.

A dyna odd prif fwyd y llongwyr wedyn?

Hwn odd 'u prif fwyd ac oddan nhw'n mynd mor galad, mi ddaru ddysgu hen gasd drwg iawn, a fydda'r mamau yn dwrdio'r plant - tolldi te i'w sosar a rhoid y bisgedan galad i stwytho yn y te, ac 'i gneud hi dipyn bach mwy melys, am bod 'na siwgwr a llefrith yn y te. Ac odd hwn yn 'i neud o'n hawddach i blant bach i fyta'r bara, achos mi oddan nhw'n galad fel lledr bron iawn.

Byse bobl y dre yn byta nhw hefyd felly?

O, mi odd 'na lawar o gartrefydd odd yn byta nhw, oherwydd oddan nhw ryw newid i fara cyffredin. A ma'n debyg bod y morwyr ryw hirath ar ôl bod ar y lan am chydig, isho dŵad yn ôl i'r bwyd oddan nhw wedi arfar ag o ar y llong. Ond cig halld odd pob peth, cig wedi'i halldu a dim ond dau fath — cig eidion a cig mochyn — a hwnnw heb ormod o frasdar arno fo. A dyma'r ddau fath fydda'n cael 'i halldu. Mewn bareli fydda hwn yn dŵad, a llawer iawn ohono fo yn ddwy ac yn dair blynadd oed cyn i'r gasgan gal 'i hagor yn y lle cynta. Ac am bod dŵr mewn llong, yn enwedig llong hwylia bach, mor ofnadwy o brin, oddan nhw methu gloefi a cal yr heli allan o'r cig. Ond os odd 'na law, oddan nhw bob amsar yn dal dŵr glaw i olchi dillad ac i olchi cyrff ac hefyd i gloefi'r hen gig halld achos dodd 'na ddim digon o ddŵr yn cal 'i gario ac oddan nhw'n gorod byta'r hen gig yn fwy halld. Dodd o ddim mor flasus â 'tysa nhw wedi cal mwy o ddŵr croyw i gloefi y cig a cal yr heli allan ohono fo.

Ffermwyr ardal Porthmadog fase'n halldu'r cig 'ma ar 'u cyfer nhw?

Naci, odd y cwbwl yn dŵad i mewn i Borthmadog o borthladdodd mwy fel Lerpwl ac yn y blân.

Tâp: AWC 3095. Recordiwyd: 6.v.1971, gan S Minwel Tibbott.
Siaradwr: Capten John Penri Davies, Glasnant, Cricieth. Ganed: 31.vii.1900, Bristol House, Porthmadog.
Gwaith: Capten llong (cadlywydd / commander); rheolwr stordy rhewgelloedd. Bu hefyd yn cadw gwesty.
Bu'n byw yn Lerpwl am rai blynyddoedd a threulio nifer o aeafau yn byw yn Sbaen.
Awdur Blas y Môr (Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).