'Cocos a Wya a Bara Ceirch Tena'

Gan: Cadlywydd John Penri Davies, Cricieth

Y Cadlynnydd John Penri Davies
Y Cadlynnydd John Penri Davies (cyhoeddwyd yn ei gyfrol o atgofion, Blas y Môr, Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).

Wel beth odd ych mam yn arbenigo ynddo i ddechre rŵan?

Wel, ydw i'n meddwl y pryd fyddwn i'n dotio efo fo pan oddan ni'n blant odd cocos a wya a bara ceirch tena. Dull fydda gin mam fydda prynu y cocos 'ma gin yr hen ferchaid fydda'n dŵad o bentra Penrhyndeudraeth. Lle tlawd iawn odd Penrhyndeudraeth ryw bedwar milldir drosd y cob yn Sir Feirionnydd. Ac ydw i ryw deimlo mai rheswm y tlodi odd mai chwarelwyr odd pobol Penrhyndeudraeth ac yn gweithio'n Ffestiniog. Ac os odd 'na ddiweithdra'n digwydd, y cryduriaid bach yn Penrhyn odd yn cal 'u gneud yn ddiwaith, oherwydd doddan nhw ddim yn mynd i'r un capelydd â'r llywodraethwyr a ddim yn mynd i'r un tafarna â'r fformyn a'r stiwardiaid, ac wedyn y nhw odd yn cal 'u gneud allan o waith. Wedyn odd 'u gwragadd nhw yn mynd allan ar y traethodd, Penrhyn ffor' 'na, ac yn hel cocos. Odd 'na beth wmbrath o gocos, ac yn rhei da, oherwydd bod y dŵr yn hannar halld ac yn hanner croyw. A ma 'u blas nhw'n well na tysa nhw'n dŵad o'r môr mawr.

Fydda mam yn prynu y cocos gin yr hen ferchaid fydda'n dŵad â basgeidia. A mi fydda un hen wraig fydda wedi bod yn y dafarn ddim ymhell, ryw bedwar drws o ble oddan ni'n byw, a hen longwrs wedi cal dipyn o sbort efo hi ac hwyrach wedi cal ryw lashad ne ddau a ddim yn gal o'n amal. A pan fydda mam yn deud, 'Wel mi gyma i hyn a hyn' — rhyw dri peint neu dri chwart beth bynnag odd o — mi fydda'n rhoid 'i basgiad ar y llawr a mi fydda'n gneud ryw ddawns bach o ochor i ochor, a dyma fel bydda hi'n deud:

'Cocos a wya a bara ceirch tena,
Merched y Penrhyn yn ysgwyd 'u tina.

A wedyn sbort fawr a prynu'r cocos.

Wel rwan, pwysigrwydd efo cocos ydy i beidio gor ferwi nhw oherwydd ma nhw'n mynd yn wydyn. Jysd 'u lladd nhw efo dŵr berwedig, wedyn 'u gogru nhw i neud yn siŵr nad oes dim tywod na dim byd felna a'u taenu nhw ar lian mawr a llian arall ar 'u penna nhw a sychu nhw. Odd y busnes sychu yn bwysig iawn i rwystro y saim sboncio i'ch gwynab chi pan odda chi'n coginio y cocos.

Odd rhain allan o'u cregyn rŵan?

Oddan nhw allan o'u cregyn a wedi cael 'u taenu mewn saim, dim gormod o saim, ar badall ffrio fawr ddu. Un fawr huarn odd hi, a bydda mam efo llwy bren yn 'i troi nhw i neud yn siŵr bod 'na dipyn o saim o gwmpas pob cocosan. A munud odd hyn wedi digwydd a bod nhw wedi poethi, fydda hi wedi torri ryw ddau ne dri wy a'u curo nhw ac yn tywalld yr wy am ben y cocos ac yn dal i symud nhw efo'r llwy bren 'ma. Pupur! Odd pupur yn bwysig a fydda'n rhoi pupur du am ryw reswm. Pupur gwyn oddan ni'n arfar gal, ond pupur du am y cocos a'r wya 'ma. Erbyn hyn mi fydda wedi cal bara haidd oddi wrth berthnasa odd yn ffarmio ar ben y mynydd tu nôl i Dremadog. Oddan nhw'n tyfu haidd ac yn 'i falu o ac yn crasu'r haidd 'u hunan. Ac oddan nhw hefyd yn gneud bara ceirch, ac odd rheini bob amsar ryw droedfedd a hannar ar draws ac yn grwn. A be fydda mam yn 'i neud fydda rhoid menyn ar ddwy sleisan o fara haidd ac yn rhoid y bara ceirch tena 'ma rhyngthyn nhw, a wedyn 'u torri nhw fel bysedd neu sgwârs bach. A pan oddach chi'n cal ych platiad o'r cocos a wya, oeddach chi'n byta bara haidd, a'r bara ceirch tena rhyngthyn nhw efo'i gilydd, ac odd blas y ddau yn cymysgu'n ardderchog. Odd hi'n wledd heb ddim byd arall o gwbwl.

Tâp: AWC 3094. Recordiwyd: 6.v.1971, gan S Minwel Tibbott.
Siaradwr: Capten John Penri Davies, Glasnant, Cricieth. Ganed: 31.vii.1900, Bristol House, Porthmadog.
Gwaith: Capten llong (cadlywydd / commander); rheolwr stordy rhewgelloedd. Bu hefyd yn cadw gwesty. Bu'n byw yn Lerpwl am rai blynyddoedd a threulio nifer o aeafau yn byw yn Sbaen.
Awdur Blas y Môr (Gwasg Tŷ ar y Graig, d.d.).