Gweddi Brawd Wil Bach

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan Robert Owen Pritchard, Llanddaniel, Môn (gynt o Fetws Garmon, sir Gaernarfon)

Mi fydda un arall [ym Metws Garmon] yn gweddïo. Ryw greadur bach odd hwn fydda'n mynd i'r cwarfod gweddi, a fydden nhw'n gofyn iddo gymeryd rhan. A'r noson dan sylw mi odd rywun wedi dwyn ieir ei frawd o. Wil Bach oddan nhw'n galw ei frawd o. A mi odd rywun wedi dwyn ieir Wil Bach, a be nath o ond mynd â'r achos o flaen Gorsedd Gras a roid o i'r Brenin Mawr i ddiseidio. A dyma fo'n dechra gofyn iddo fo, 'dê ac yn brolio dipyn i ddechra bod o'n dda iawn gynno fo bod o yn cal dŵad at Berson mor fawr felly. Bod o'n anfeidrol fawr a bod hi'n braf arno fo. Bod o'n hollwybodol, bod o'n gweld hi'n ofnadwy o braf arno fo am fod o'n hollwybodol:

'A'r Arglwydd Mawr, wsti be, wel, dwi'n gweld hi'n hynod o braf arna Ti, bo chdi yn medru gwbod bob peth', medda fo. 'Yn hollwybodol. Wyddost Ti', medda fo, 'ma'n bosibl wyt Ti'n gwbod yn iawn pwy ddaru ddwyn ieir Wil Bach, yndwyt? Wyt Ti'n gwbod yn iawn. A ma gynnon ninna ges [guess] go lew hefyd', medda fo.

Tâp: AWC 4529. Recordiwyd: 27.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Afallon, Llanddaniel, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.