Gweddi Wil Fain

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan Robert Owen Pritchard, Llanddaniel, Môn (gynt o Fetws Garmon, sir Gaernarfon)

Mi odd 'ne un och chi'n ei alw fo 'Deryn Du', yndê. Nawr William D Jones, neu 'Wil Fain'. Dyna odd yr enwau arno, ie? Nawr pwy odd o'n hollol?

O, cymeriad o ardal y Betws [Betws Garmon]. Odd o wedi'i eni a'i fagu yn y Betws. Un o hen deulu'r Betws odd o. Fydda Wil mynd am Sowth withie. A todd 'na ddim llawar o withio yn 'i groen o. Gadal ei job, gadal 'i ar ei chanol. Dim gronyn o wahaniath gynno fo. Cymyd y goes a ffwr â fo. A dodd 'na ddim gwahaniath pwy dala am ddim byd na dim. Ond pan fydda wedi bod oddi ar y rêls ac wedi bod yn hel diod ac yn cysgu allan a gneud sôn amdano, mi fydda Wil ryw ddod yn ei ôl. Mi fydda 'i deulu o 'i hun yn ddigon parod 'i erlid o'r wlad, yndê. Ond diawch chi, wel, odd 'na ryw ddynes odd yn wraig iddo wedyn yn barod iawn i roi derbyniad iddo fo. A fydda'n cal dod yn ôl, a fydda'n sleifio yn ei ôl yn amal iawn gyda'r nos wedi iddi dwllu a medru mynd i'r tŷ a hwyrach bod yn ei wely dan pnawn drannoth. Ac unwath cal mynd i'w wely, dechra ordro'i dendans, a'r wraig yn cario iddo fo fanna, 'tê. A wedyn, mi landia Wil yn capal. 'Sgin i ddim llawar o go am iddo gael 'i dorri allan o'r seiat na dim byd felly, ond fydda Wil yn ryw fodlon cydnabod a cyfadda bod o wedi bod yn hogyn drwg a gofyn i'w Dad nefol am fadde iddo fo a cofio pwy odd o, mai un o'r hogia rheini odd o wedi bod yn y wlad bell, a fel bydda ryw fab afradlon o hyd yn troi fyny o'r wlad bell 'ma.

Allech chi rŵan ddynwared 'i hoff weddi o? Dech chi'n cofio, am yr orsaf?

Wel dydd diolchgarwch odd hwnnw. Odd o'n ryw nod neu ryw garreg filltir bendant yn ystod ei fywyd o. Ac os bydda Wil yn y gynulleidfa, fyddan nhw'n siwr o ofyn iddo ddod ymlaen i gymeryd rhan. A wedyn dyna lle bydda'r hen greadur yn mynd â ni i ryw hen relwê bach odd yn pasio trw'r Betws i fyny o hen halt bach gwerbyn â'r pentra a wedyn fydda Wil yn gweld bywyd yn debyg iawn i'r hen lein fach, rwy fân steshions yma ac acw. Ryw stop bach ac isio ail-gychwyn, a fydda'r hen drên bach 'ma'n amal iawn yn mynd oddi ar yr huarn, a fydda Wil yn cymharu 'i hun bod ynte yn mynd oddi ar yr huarn hefyd. A wedyn gofyn i'w Dad grasol edrach ar ei ôl o. Mi fydda'n dechra:

'Wel, Dad grasol, dyma ni wedi dŵad yma hiddiw eto. Ma un o dy ddiolchgarwch di wedi dŵad unwaith eto, a ma hwn yn ryw farc yn ein bywyd ni. Ma'n steshion go bwysig bob blwyddyn. A wir, ma'n dda mai yma wyt Ti'n ein gweld ni. Ma'n dda mai mewn byd o amsar ddaru Ti ddeffro ni'r bora 'ma. Ydi, yn wir. Diolch i Ti am yr hen steshion bach 'ma. A diolch i Ti, fel chdi y Steshion Mastar mawr sy'n gofalu amdanon ni. O! mi wyt Ti'n dda wrthon ni. Peth arall: wyt Ti byth yn ein anghofio ni, fath â dan ni'n d'anghofio di. Mi wyt Ti yn stopio yn bob hen steshion bach i godi pob un ohonon ni sy'n disgwl amdanat Ti. Peth arall: ma 'na amball i steshion, dos 'na ddim stopio arni. Dim ond sgyrsion [excursion] fawr yn mynd trwadd, a dim stopio yn ei hanas hi. Ond diolch i Ti, rwyt Ti'n stopio ym mhob un ac yn barod i'n codi ni. Diolch i Ti am yn cadw ni ar yr huarn, a diolch i Ti am y signals wyt Ti roid. Biti garw na fasen ni'n cadw mwy at dy signals di. Mi fasa ryw well graen o lawar iawn arnon ni.'

Tâp: AWC 4528. Recordiwyd: 27.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Afallon, Llanddaniel, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.