Pobl Arfon, Môn, Eifionydd a Llŷn

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan Robert Owen Pritchard, Llanddaniel, Môn (gynt o Fetws Garmon, Sir Gaernarvon)

Beth oddech chi'n ddweud rŵan odd y gwahanieth rhwng pobl sir Fôn a phobl, dwedwch chi, Llandudno ac Arfon a Llŷn?

Wel, gan mod i wedi bod yn gwithio yn y llefydd 'ma i gyd, wel, amball i ddiwrnod fyddwn i yn ochra Llandudno. Dudwch o Abar draw, 'dê. Wel, cyrradd y ffarm, pobol itha clên, ond estyn bob dim i chi ar unwaith a dim cadw chi yno am eiliad. Bobol â ryw fynd ynyn nhw, 'tê. Dim amsar am sgwrs o fath yn y byd. 'Brysia' a 'dôs'. 'Dôs, a gna dy waith a cliria!' Dyna'r teip, 'tê.

Wedyn, dudwch mod i'n gwithio yn sir Fôn. Dyna peth cynta. 'Dach chi ddim yn un o fama, dach chi'n ddyn dierth fama.' 'Wel dach chi ddim yn gneud, fyddan ni ddim yn gneud yr un fath â dach chi, dach chi fel hyn a dach chi fel llall.' 'Run fath fel tasan nhw dipyn o fodfeddi yn uwch na chi, yndê. Bod nhw'n sbio lawr arnoch chi. Tuedd i sbio lawr arnoch chi sy gin bobol sir Fôn.

Wel, rwan, wy'n dod yn f'ôl adra. Duw, wedi gadal llonydd i'r moch, 'tê, a dod adra. Hwyr gin i ddod o sir Fôn bob amsar, ddim math o isio gweld y lle, i fynd yno i withio. Ddim un peth, 'tê. Odd na gimin o hen fân groesffyrdd, odd y peth yn nrysu fi'n lân.

Wel, adra â fi a gynta bo fi'n dod i rwla i ochra Pengroes, ne ardal y chwareli — wel on i wedi fy ngeni a magu yn ardal y chwareli, on i'n medru gneud yn iawn efo'r bobol — a gynta bo fi wedi mynd trw Pengroes i ardal Eifionydd, dewc, on i'n teimlo fy hun. Wel, a fy nhad a mam yn dod oddno, odd na 'im posibl i mi beidio, nagodd? Ton i'n timlo'r un fath yn union ag odd y bobol rheiny, a gin i fwy i ddeud wrthyn nhw. Ryw fwy o hamdden gynnyn nhw. Amsar ddim gin brinnad i gal ryw sgwrs a ryw drio ffeindio allan o lle chi di cychwyn a pwy frîd. Odd gynnoch chi rywun yn perthyn fel hyn a rhywun yn perthyn fel arall, 'dê. Ma arna i ofn bod ryw duadd felly wedi mynd arna i. Dwi wedi hel ryw acha fy hun 'tê.

Wedyn, pan fyddwn inna'n mynd i Ben Llŷn — ow, 'na chi lle fyswn i'n licio, yn medru anghofio bod i'n un o Arfon ne o Eifionydd. Os fasa rywun yn fy nghamgymeryd i am bobol o Ben Llŷn, Duw, odd rheiny'n plesio'n iawn. Fydda llawar iawn yn diwadd wedi mynd, 'Duwch, un o Ben Llŷn 'ma ydach chi, 'ntê, yn wreiddiol?' meddan nhw. 'Ia', fyddwn inna'n ddeud wedyn. Reit falch o gal deud am y rheswm, duw, on i'n teimlo bod nhw ryw hen bobol glyfar, nobl i chi. Yn enwedig ar gyrion Rhoshirwaun fforna. Dach chi 'im yn gwastraffu amsar wrth sgwrsio efo pobol Rhoshirwaun, wchi, a pobol Pen Llŷn. Dew, mi dech chi'n cal rywbath, 'dê. Nid gwastraffu amsar, nid malu awyr 'dach chi.

Tâp: AWC 4527. Recordiwyd: 27.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Afallon, Llanddaniel, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.