Amgueddfa Cymru

Detholydd a Golygydd

[delwedd: Robin Gwyndaf yn darlithio yn Nulyn, Ebrill 1966]

Robin Gwyndaf yn darlithio yn y Gyngres Geltaidd yn Nulyn, Ebrill 1966.

[delwedd: T. W. Thomas, Pentyrch, yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf]

T. W. Thomas, Pentyrch, yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf, 20 Ionawr 1994.

[delwedd: Nansi Selwood, Penderyn, yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf]

Nansi Selwood, Penderyn, yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf, 8 Hydref 2005.

Cofnodwyd a golygwyd y defnyddiau a gyflwynir yn y detholiad hwn gan y Dr Robin Gwyndaf, Cyn-Guradur Llên Gwerin, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fe'i maged ar aelwyd fferm fynyddig Yr Hafod, Llangwm, Uwchaled, yn yr hen sir Ddinbych, aelwyd a chymdogaeth lle roedd traddodiad byw o adrodd storïau, barddoni a chanu.

Ym mis Hydref, 1964, fe'i penodwyd yn aelod o staff Amgueddfa Werin Cymru. Wedi ymddeol yn 2006, fe'i gwnaed yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd. Bu hefyd yn Ddarlithydd Anrhydeddus mewn Llên Gwerin yn ei hen goleg ym Mhrifysgol Bangor (1982-99). Yn 1988 fe'i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr (Llundain, FSA); yn 1993 yn Gymrawd Llên Gwerin Cydwladol (Helsinki), ac yn 1995 yn aelod o Fwrdd Cydwladol Canolfan Diwylliant Gwerin Ewrop o dan nawdd UNESCO (Budapest). Y mae'n gyn-Gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn gyd-sefydlydd a Llywydd cyntaf Cymdeithas Llafar Gwlad.

Fel rhan o weithgarwch Dr Robin Gwyndaf yn Amgueddfa Werin Cymru, rhoes sylw arbennig i waith maes, ac y mae'r casgliadau helaeth yn archifau'r Amgueddfa bellach yn cynnwys rhai miloedd o eitemau ym maes llên gwerin, yn bennaf yn ymwneud â'r pynciau hyn: storïau, traddodiadau a choelion gwerin, hwiangerddi a rhigymau, posau, emynau llafar gwlad, a llên gwerin byd natur. Bu'n cyfweld dros dair mil o bersonau hwnt ac yma yng Nghymru, a recordiwyd oddeutu 450 ohonynt ar dâp (cyfanswm o tua 750 awr o recordiad a thua 18,000 o eitemau).

Cyhoeddwyd eisoes gyfres o gasetiau sain gan yr Amgueddfa sy'n cyflwyno peth o'r deunydd hwn. Cyhoeddodd yr awdur hefyd nifer o gyfrolau ac erthyglau sy'n ymwneud â diwylliant gwerin Cymru. Ceir cyflwyniad i draddodiad maith a chyfoethog y stori werin yng Nghymru yn benodol yn y ddwy gyfrol a ganlyn o'i eiddo: Straeon Gwerin Cymru, Cyfres Llafar Gwlad, rhif 10, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1988, a Chwedlau Gwerin Cymru: Welsh Folk Tales, cyfres ddwyieithog, gyda phoster lliw a ddarluniwyd gan Margaret D Jones, yn cynnwys map o Gymru, a gyhoeddwyd gyntaf gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1989. Yn 2004, gosodwyd testun Cymraeg (ynghyd â'r sain a chyfieithiad i'r Saesneg) o 33 stori werin o Archif yr Amgueddfa Werin ar wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/376/.

Yn y detholiad presennol, 'Aur Dan y Rhedyn', cyflwynir ystod ehangach o ddeunydd, yn cynnwys: storïau, traddodiadau a hanesion; storïau digri a storïau celwydd golau; arferion, coelion a meddyginiaethau gwerin; bwydydd a gwisgoedd morwyr Porthmadog; portread o fywyd pentref (Nefyn); profiadau goruwchnaturiol; hanesion am Dwm o'r Nant, Daniel Owen, Emrys ap Iwan a Hedd Wyn (ar faes y gad); rhigymau, hen gerddi, ac emynau llafar gwlad.