Iaith y Brain

Gan Lora Roberts, Llanystumdwy, Sir Gaernarfon.

Oedda ni wedi byw efo hwnnw [hanes iaith y brain], fydda nhad [Jeremiah Williams, Pencaerau] yn 'i ddeud o gymint wrtho ni, 'da chi'n weld. Pan fydda ni'n blant, yntê fydda nhad yn deud yr iaith y Brain 'ma. Ia, odd Obadiah [Gruffydd] wedi cymyd yn 'i ben, yda chi'n gweld, fod y brain yn siarad efo fo, wrth gario'r blawd o'r Felin [Melin Bodwrdda]. Dyna fydda fo'n neud, cario blawd o'r Felin efo car a mulod. Wedyn fydda'n mynd ar hyd y ffor', a wedyn mi fydda'n deud fod y brain yn siarad efo fo, 'da chi'n weld, a mi odd o'n dallt nhw, medda fo. A dyna be odd y brain yn 'i ddeud, medda fo, y rhigyma yma odd o'n 'i deud, yntê. A wedyn fydda nhad yn 'u deud nhw, fydda nhad yn 'u cofio nhw. Mae'n biti na fasa ni wedi'i cadw nhw i gyd, wrth gwrs. Ydw i'n cofio rai, wyddoch chi, ond tydw i 'm yn 'u cofio nhw i gyd. Rwbath tebyg i hyn yntê – mae 'na fwy, mae'n debyg, nad sydd yn famma i fewn rhwng y llinellau. Mae yna ddwy neu dair o wahanol ieithoedd. Mae 'na iaith brain Bodwrdda, a iaith brain Meillionydd, a iaith brain Sarn, dwi'n meddwl, odd y llall gynno fo. Oeddan nw'n wahanol i gyd. Doedd yna ddim un 'run fath ynte. A dyma hi iaith Brain Bordwrdda:

'Iwnion colej jeifys wefimembrans getin oilits banits and the shîfs and elings brôn, that ffiwseth of ampton licswm sterics slaiming steials, getin darkness, breilder hiwmaniti, besysborn and the shîfs and elings brôn and iwnial colej.'

Odd hi'n gorffen fel yna. Ond mi odd y llall, tydi hon ddim yma i gyd chwaith, ond rywbath tebyg i hyn odd hon:

'Ymdeclan, ymdeclar, ymdeclyn amser amlont mewn beddrod a seliwyd ac a ddaliwyd â sain utgyrn ffliwits.'

Dwn i ddim be odd ystyr peth felna, 'tê. Ond mi odd yna un arall. 'Craints, craints' odd honno'n dechra rwsut. Ond doedd honno ddim mor hir, ond odd hi ddim yn rhedeg mor rwydd, dwi ddim yn meddwl. Odd 'na lot o ryw betha yn honno. Tydw i ddim yn 'i chofio hi'n wir.

Y gynta odd brain Bodwrdda?

Bodwrdda odd honna, ia.

A'r ail, brain?

Dwi'n meddwl mai honna odd brain Meillionydd.

Wel, dowch i ni fynd yn ôl rwan at Obadiah Gruffydd. Odd o wedi'i eni a'i fagu yn....?

Yn y Felin Bodwrdda odd o'n cario, alla i ddim deud lle odd o wedi cael 'i eni a'i fagu. Ym Mhencaerau odd o yn bendant. Pwtyn bach byr odd o. Mi odd o'n gymeriad, ychi, mi fydda'n medru adrodd pregetha hen bregethwrs. Fydda nhad yn deud bydda nhw yn mynd tu ôl iddo fo hyd y ffordd felly ac yn gwrando arno fo yn siarad wrtho fo'i hun, a dyna fyddai gynno fo, pregetha dydd Sul cynt ar dafod leferydd o'r dechra i'r diwedd.

information

Lora Roberts
Lora Roberts.
Tâp: AWC 4636. Recordiwyd: 12.vi.1975, gan Robin Gwyndaf.

Siaradwraig: Lora Roberts, Blaen y Wawr, Llanystumdwy, Sir Gaernarfon.
Ganed: 1927, yn Llanystumdwy. Gwraig tŷ. Gweithio yn Llythyrdy Llanystumdwy yn achlysurol. Aelod o deulu llengar. Brawd iddi oedd Y Parchg Robin Williams, gweinidog ac awdur nifer o lyfrau. Brawd arall oedd Jac Williams, awdur Pigau'r Sêr (1969) a Maes Mihangel (1974). Chwaer iddi oedd Madge Hinder, awdur Newid Ffedog.