Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English
Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Y GERDDI DOMESTIG > >

Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Mae'r gerddi o gwmpas y tai sydd wedi cael eu hailgodi ar y safle'n adlewyrchu sut mae gerddi domestig wedi datblygu o'r 16eg ganrif hyd heddiw. Mae'r gerddi'n adlewyrchu statws cymdeithasol trigolion yr adeiladau, gyda phlanhigion o'r cyfnod a thechnegau garddio sy'n adlewyrchu'r dodrefn y tu fewn ? o ran oedran ac ardal wreiddiol yr adeiladau.

Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Mae'r gerddi domestig yn dangos mai pethau ymarferol yn hytrach nag addurnol oedd gerddi. Mae gerddi'r gweithwyr haearn ym mythynnod Rhyd-y-car (1800-1985), yn dangos y datblygiad hwn yn glir. Mae'r gerddi'n dangos treigl amser, o'r gerddi ymarferol i dyfu ffrwythau a llysiau, i erddi addurniadol a hamdden lle mae pwyslais ar blanhigion sy'n blodeuo.

Gerddi Rhydycar
Gerddi Rhydycar

Gardd hynaf yr Amgueddfa yw gardd Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf o Sir Ddinbych, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif gynnar. Mae gwelyau blodau'r ardd wedi cael eu codi gan ddefnyddio estyllod, oedd yn nodwedd gyffredin mewn gerddi canoloesol. Mae'r plant sy'n tyfu yn yr ardd yn cynnwys ffa melyn Martock, math o ffa o'r oesoedd canol sy'n cael eu henwi yn y Canterbury Tales. Mae'r gwelyau wedi cael eu codi yng ngardd bwthyn Nant Wallter o Sir Gaerfyrddin hefyd ar sail tystiolaeth archaeolegol o gartrefi gwledig yn y gorllewin.

Un o swyddogaethau pwysicaf yr ardd oedd cynhyrchu bwyd ar gyfer teuluoedd y gweithwyr. Mae gardd un o dai ifancaf yr Amgueddfa ? y Pre-ffab ? yn dangos hynny. Cafodd yr ardd ei hail-greu gan ddefnyddio gwybodaeth o hen lythyrau, o ffotograffau ymwelwyr ac o lyfrau garddio'r cyfnod. Mae'r tŷ wedi cael ei ddodrefnu fel y byddai wedi bod ym 1950, cyfnod pan roedd bwyd yn dal i fod yn brin ar ôl y rhyfel. Mae ffrwythau a llysiau bob dydd fel cennin, tatws, sbrowts a ffrwythau yn tyfu yn yr ardd â llwybrau a sied pren ynn.

Gerddi Ty'r Dyfodol
Gerddi Ty'r Dyfodol

Mae'r gerddi domestig yn cynnwys rhai hen blanhigion prin. Er enghraifft, mae gardd Ffermdy Kennixton o benrhyn Gŵyr yn tyfu tatws 'Iam' sy'n dyddio nôl i 1771, ffa melyn prin â blodau rhuddgoch, a môr-fresych ? llysieuyn deiliog sy'n tyfu ar lan y môr.

Yn wahanol i erddi mwy diweddar, doedd pobl ddim yn meddwl am wahanu planhigion imewn gwahanol rannau o'r ardd. Mae cymysgedd o ffrwythau, llysiau a pherlysiau fel y rhai sydd yng ngerddi Nant Wallter a Kennixton yn nodwedd sy'n gyffredin yn sawl un o'r gerddi domestig ar y safle felly. Yn ogystal â bod yn bethau i addurno, roedd blodau'n cael eu defnyddio wrth goginio a pharatoi bwyd hefyd fel melyn Mair mewn cawl a stiw. Yn ogystal ag ychwanegu blas at fwyd, byddai pobl yn defnyddio perlysiau i wella pob math o anhwylderau cyffredin cyn dyddiau'r meddygfeydd, ac felly roedden nhw'n nodweddion pwysig mewn gerddi. Yn Hendre'r Ywydd Uchaf, roedd perlysiau taenu fel tansi a llysiau'r eryr pêr yn tyfu. Byddai'r trigolion yn taenu'r rhain ar lawr y tŷ i gadw pryfed draw ac i bersawru'r tŷ.

Nantwallter yn yr haf
Nantwallter yn yr haf

Roedd gerddi a'u planhigion yn chwarae rhan bwysig arall i rai pobl. Er enghraifft, mae cerddinen yng ngardd flaen Ffermdy Kennixton, a'r gred oedd bod y coed hyn yn amddiffyn y tŷ rhag ysbrydion drwg a dewiniaeth. Yng ngardd Nant Wallter mae llysiau'r pannwr, oedd yn cael eu defnyddio i baratoi gwlân i'w nyddu ers lawer dydd.

Roedd llawer o blanhigion yn cael eu defnyddio am wahanol bethau ? e.e. byddai pobl yn bwyta danadl fel llysiau yn y gwanwyn a dechrau'r haf, ar ôl ei sychu roedd yn helpu i atal peswch â broncitis, ac yn yr hydref, câi'r coesynnau eu defnyddio i gynhyrchu ffibrau i'w nyddu i wneud defnydd.

Gerddi Kennixton