Rydych chi yn:  >   >   > 

[delwedd: Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan]

[delwedd: Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan]

Y gerddi yw cyfrinach fwyaf Sain Ffagan. O erddi ffurfiol y bonedd i erddi'r bythynnod oedd yn bwydo teuluoedd y gweithwyr, mae'r gerddi'n rhoi syniad go dda i ni am fywydau pobl Cymru drwy hanes.

Mae timau o gadwraethwyr gerddi a garddwyr yn datblygu a gofalu am y gerddi er mwyn sicrhau eu bod nhw'n helpu i ddehongli'r gorffennol drwy gydategu adeiladau hanesyddol yr amgueddfa. Mae pob gardd ar y safle 40 erw, o'r Ardd Rosod cywrain i'r gerddi anffurfiol lleiaf, yn rhan annatod o gasgliadau'r Amgueddfa, ac mae gan bob un ei stori ei hun.

[delwedd: Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan]

Y gerddi ffurfiol o gwmpas Castell Sain Ffagan oedd lloches Iarll Plymouth a'i deulu oedd yn defnyddio'r plasty fel tŷ haf. Mae'r rhodfa o bisgwydd wedi plethu yn arwain o'r pentref i'r gerddi. Mae'r gerddi eu hunain yn cynnwys Gardd Rosod wych, Gardd Eidalaidd, parterre cywrain a therasau'r castell sy'n edrych allan dros y llynnoedd pysgod.

Mae'r gerddi domestig y tai sydd wedi cael eu hailgodi ar y safle'n dangos sut mae gerddi domestig wedi datblygu o'r 16eg ganrif hyd heddiw. Mae'r gerddi hyn yn adlewyrchu statws cymdeithasol y bobl oedd yn byw yn y tai. Mae'r planhigion a thechnegau garddio y tu fas yn adleisio'r dodrefn y tu fewn, o ran cyfnod a lleoliad.

[delwedd: Nantwallter yn yr haf]

Nantwallter yn yr haf

Does dim un amgueddfa arall yn adlewyrchu treigl y tymhorau fel yr Amgueddfa Werin, ac mae'r gerddi'n rhan bwysig o hynny. Drwy gydol y flwyddyn, gallwch chi weld y staff wrth eu gwaith yn dehongli'r gerddi, ac maen nhw bob amser ar gael i ateb cwestiynau.

Mae staff y gerddi'n cynnig sesiynau galw heibio arbennig drwy gydol y flwyddyn hefyd i ddangos tasgau tymhorol yr ardd.

[delwedd: Yr Ardd Rhosod]

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.