Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Diwylliant y Cyngerdd

O safbwynt her y diwylliant Seisnig, sef diwylliant y cyngerdd, i'r diwylliant Cymraeg traddodiadol, fe welwyd hwnnw ar unwaith ar waith yn 'Steddfod Caerfyrddin 1819, oherwydd mi ddôth y Parchedig John Bowen â chôr, rhan o'r Bath Harmonic Society, lawr i dre Caerfyrddin ac fe wnaeth y côr hwnnw gynnal dau fuddgyngerdd, y naill ar gyfer gweddwon a phlant offeiriaid oedd wedi darfod amdanyn nhw, a'r llall, credwch fi neu beidio, a defnyddio'r disgrifiad Saesneg, yn fuddgyngerdd ar gyfer "decayed harpists," sef hen delynorion mae'n debyg, oedd wedi mynd yn rhy fusgrell i'w cynnal nhw eu hunain. Ac yn y ddau gyngerdd yma fe welwyd wrth gwrs parchusion tre Caerfyrddin a'r cylch yn tyrru, oherwydd mi roedd hwn yn rhywbeth hollol ffasiynol.

Ac mewn gwironedd, o'r foment honno ymlaen mi welwch chi ddechrau'r frwydr yn yr Eisteddfod rhwng y ddau ddiwylliant. Meddyliwch chi nawr, mae gyda chi Iolo Morgannwg yn cynnal Gorsedd y Beirdd ar lawnt yr Ivy Bush, a'r Orsedd honno'n bod yn un swydd i ddathlu yr hyn a oedd yn unigryw yn y diwylliant Cymraeg. Mae hyn'na'n digwydd ar y naill law, ac ar y llaw arall mae'r cyngerdd ffasiynol yma'n dod mewn. Ac mi fyddai hi'n frwydr o 1819 ymlaen, a honno'n frwydr gyda llaw a fyddai'n costio'n ddrud iawn i'r beirdd ac i'r diwylliant Cymraeg o fewn yr Eisteddfod.