Rydych chi yn:  >   >   > 

Yn eiriol dros yr achos


Mae un person ym mhob adran yn gyfrifol am sicrhau bod yr adran yn gwneud ei gorau i gynorthwyo’r Amgueddfa i ddod yn fwy cynaliadwy’n amgylcheddol. Mae gan bob prif adran aelod staff sy’n Eco Champion, a’u rôl yn fras yw hyrwyddo arferion cynaliadwy. Mae tua 20 Eco Champions yn yr Amgueddfa i gyd. Mae esiamplau o’u gwaith yn cynnwys:

Bagiau am Byth

Mae siopau’r Amgueddfa bellach yn cynnig bagiau cotwm am byth. Caiff y bagiau eu cynhyrchu gan fenter ar y cyd i fenywod yn India a’u prynu drwy ein cyflenwr bagiau papur yng Nghymru. Bydd staff y siop yn annog gwerthiant y bagiau yma!

Abwydfa

Wrth edrych ar y math o wastraff oedd yn cael ei daflu i’r bin gwastraff cyffredin, sylwodd un aelod staff ar y nifer fawr o fagiau te. Penderfynodd eu casglu a’u defnyddio mewn abwydfa gartref. Ar y cyd â sbarion ffrwythau a llysiau i roi diet amrywiol i’r mwydod, cynhyrchwyd compost gwych!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Tîm Gwyrdd y Glannau yn cyfarfod bob deufis i edrych ar ffyrdd o wella materion defnydd ynni, rheoli gwastraff, gwybodaeth i’r cyhoedd a swyddfeydd. Rydym yn ceisio rhoi targed cyraeddadwy i bob aelod wneud cynnydd tuag ato erbyn y cyfarfod nesaf.

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.