Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Celf gwydr gan Maurice Marinot Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Roedd Maurice Marinot yn arloeswr yn y grefft o drin gwydr. Dechreuodd ei yrfa artistig fel peintiwr, ac roedd yn aelod o fudiad Fauves (‘Bwystfilod Gwyllt’) yn y byd Ffrengig a oedd yn enwog am eu defnydd anturus o liwiau.

Roedd Marinot yr un mor anturus wrth ymdrin â gwydr hefyd. Dechreuodd Marinot ymddiddori mewn gwydr ym 1911 ar ôl ymweld â gwaith gwydr Gabriel ac Eugène Viard yn Bar-sur-Seine.

Bu’n gweithio yno tan 1937, gan feistroli’r grefft o wneud gwydr a chreu eitemau unigryw â llaw yn unig.

I Marinot, roedd gwydr yn ddeunydd cyhyrog llawn mynegiant. Ymwrthododd â’r label ‘celf addurnol’, gan fynnu bod ei waith lawn mor rhydd â phaentiad neu gerflun.

Ei nod oedd ‘ailddarganfod bywyd yng nghanol llewyrch llonydd gwydr, sy’n cyfleu harddwch byw.’

Mae’r gwrthrychau a welir yma’n dangos sgiliau amrywiol Marinot i’r eithaf. Ar ôl chwythu a thrin gwydr poeth, byddai’n ei ysgythru ag asid a’i dorri ag olwyn wedi iddo oeri.

Roedd yn amwisgo gwydr lliw mewn gwydr clir, megis haenau daearegol. Roedd trochi gwydr poeth mewn dŵr oer yn creu effaith debyg i iâ wedi hollti. Mae’r swigod bwriadol yn cyfleu dŵr sy’n symud.

‘Crëwyd y deunydd hwn trwy ornest, mewn mwg a thân, sydd yn ei dro’n ymwrthod neu’n ufuddhau, ond sy’n ufuddhau pan fyddaf yn ei orfodi tra’n parchu ei natur’ (Maurice Marinot)

» Nôl i Celf

Maurice Marinot, design for a glass vase, 1923
Maurice Marinot, glass bottle, 1929