Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Celf Fodern er 1930: Swrealaeth a Neo-Ramantiaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Delweddau breuddwydion a byd yr isymwybod oedd wrth wraidd celf swrealaidd. Roedd yr artistiaid yn arbrofi gyda thechnegau amrywiol er mwyn datgloi rhyfeddodau cudd y cof.

Paris 1924 oedd man cychwyn swrealaeth, mewn cyfnod o gyffro ac amheuaeth mawr yn ddiwylliannol, yn sgil erchylltra’r Rhyfel Mawr. Aeth y Swrealwyr ati i ryddhau eu hunain rhag hualau rhesymeg a meithrin technegau artistig newydd i gyfleu eu breuddwydion a meddyliau’r isymwybod.

Daeth y mudiad i sylw’r cyhoedd ym Mhrydain am y tro cyntaf yn yr arddangosfa Swrealaidd Ryngwladol yn Llundain ym 1936.

Mae gwaith rhai o’r artistiaid Prydeinig a oedd yn gysylltiedig â’r arddangosfa honno i’w gweld yn yr oriel hon, gan gynnwys Eileen Agar, John Banting, Henry Moore, Graham Sutherland, Julian Trevelyan a Paul Nash.

Datblygodd math gwahanol o swrealaeth ym Mhrydain. Fe’i gwelwyd fel ateb amgen i gelf haniaethol bur, a oedd yn annog artistiaid i ymdrin â byd natur mewn ffyrdd cwbl newydd, yn enwedig y dirwedd.

Roedd swrealaeth yn gysylltiedig â’r arddull newydd a ddatblygodd ym Mhrydain, sef Neo-Ramantiaeth – mudiad a oedd yn adeiladu ar draddodiad hir o beintio tirluniau ym Mhrydain.

Penderfynodd llawer o artistiaid Neo-Ramantaidd, gan gynnwys Graham Sutherland, weithio yng Nghymru. Cawsant eu denu gan amrywiaeth a ffurf unigryw'r dirwedd Gymreig.

» Nôl i Celf

[delwedd: NMW A 2051, René Magritte, Y Masg Gwag, 1928]

NMW A 2051, René Magritte, Y Masg Gwag, 1928

[delwedd: NMW A 269, John Piper, Glannau Penfro, 1938-40, '© The Trustees of the John Piper Estate']

NMW A 269, John Piper, Glannau Penfro, 1938-40, '© The Trustees of the John Piper Estate'

[delwedd: Map oriel 12]

Lleoliad:

Oriel 12
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.