LaBessa Warren

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ar ôl ymddeol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio'u hamser i ymlacio, treulio amser gyda ffrindiau neu edrych ar ôl eu hwyrion. Ond roedd LaBessa Warren o Gaerllion yn gweld ymddeol fel cyfle i ddechrau o'r newydd a gwirfoddoli yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

I LaBessa, roedd gwirfoddoli'n her newydd ac yn ffordd o lenwi ei hamser rhydd. Doedd hi ddim wedi ystyried gofyn i'r Amgueddfa am gael ymuno â'r tîm ar sail fwy parhaol nes iddi glywed gan gyfaill oedd yn gweithio ar y dderbynfa, fod yr Amgueddfa'n chwilio am gymorth.

Dechreuodd LaBessa wirfoddoli yn y tîm addysg, ond cyn pen dim, cafodd gynnig swydd barhaol  fel swyddog gweinyddol yn yr Amgueddfa. Mae hi wedi bod yn ei swydd ers saith mlynedd bellach, ac mae ei phrofiad helaeth o'r byd wedi galluogi iddi ddod yn rhan annatod o'r tîm.

Mae LaBessa'n cael rhwydd hynt i ddatblygu rôl y swyddog gweinyddol i gyd-fynd â'i hanghenion a'i sgiliau. Mae'n helpu gydag ymweliadau addysg ac mae hi hyd yn oed wedi helpu i hwyluso'r digwyddiad Rhufeiniaid yn y Dre, sy'n rhoi profiad o gaer Rufeinig i'r ymwelwyr.

"Mae'r swydd mor amrywiol," meddai LaBessa. "Rydw i wrth fy modd yn cwrdd â phlant ac yn gweithio gyda nhw, ac rwy'n mwynhau cydweithio â staff yr Amgueddfa. Bydden i'n argymell gwirfoddoli i unrhyw un, yn enwedig os yw hi'n arwain at swydd fel fy un i!"

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.