Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 

Graham Bean

Graham Bean

Enw:

Graham Bean.

Beth yw'ch rôl?

Catalogio'r casgliad o stampiau botanegol.

Ym mha amgueddfa ydych chi'n gwirfoddoli?

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ers faint ydych chi wedi bod yn gwirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Ers Rhagfyr 2008.

Beth ydych chi'n ei hoffi am wirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Cael cyfrannu at wybodaeth addysgiadol ac arbenigol yr Amgueddfa a hynny mewn maes sydd mor wahanol i'm gyrfa. Rwy'n cael defnyddio fy niddordeb mewn ffilateleg hefyd.

Beth wnaeth i chi feddwl am wirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Cysylltodd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yr Amgueddfa â ni yng Nghymdeithas Ffilateleg Caerdydd… fel arall, fydden i ddim wedi cael gwybod bod y rôl na'r Casgliad o Stampiau Botanegol yn bodoli!

Beth fyddech chi'n ei ddweud i ddenu pobl eraill i wirfoddoli?

Nid oes angen gwybodaeth arbenigol am faes penodol bob tro. Mae'n braf cael gwybod eich bod chi'n cyfrannu at broject ac yn cefnogi gwaith gwerthfawr staff yr Amgueddfa. Gallwch chi addasu'r oriau i gyd-fynd â'ch bywyd chi hefyd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.