Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Elizabeth Mitchell

Elizabeth Mitchell

Enw:

Elizabeth Mitchell

Beth yw'ch rôl?

Cynorthwy-ydd yn yr Archif Ffotograffau.

Ym mha amgueddfa ydych chi'n gwirfoddoli?

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ers faint ydych chi wedi bod yn gwirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Ers mis.

Beth ydych chi'n ei hoffi am wirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Rwy'n mwynhau dysgu rhywbeth newydd, dysgu am yr Amgueddfa ei hun ac am y bobl sy'n gweithio yma.

Beth wnaeth i chi feddwl am wirfoddoli yn yr Amgueddfa?

Rwy'n ymddiddori mewn archeoleg a chadwraeth ac roeddwn i am ennill profiad o weithio mewn amgueddfa.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i ddenu pobl eraill i wirfoddoli?

Mae'n gyfle gwych i ddod i gysylltiad â hanes a diwylliant a dysgu sgiliau newydd. Mae'r bobl yn yr amgueddfa'n gyfeillgar iawn, yn barod iawn eu cymwynas ac mae'n hawdd gweithio gyda nhw. Mae hyn i gyd yn golygu ei bod hi'n brofiad gwerthfawr a phleserus.