Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Llyfrgell ymchwil 'Milltir Euraid' Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

[delwedd: Rhyngweithiol]

Yn ogystal â chyflwyno arddangosfeydd sy'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru gyfan dros y tair canrif diwethaf, mae'r Amgueddfa'n gartref i lyfrgell ymchwil helaeth.

Mae dros 25,000 o gyfrolau yn y llyfrgell, ynghyd ag archif sy'n cynnwys dros 40,000 o ffotograffau'n ymwneud â hanes diwydiant, morwriaeth a thrafnidiaeth yng Nghymru. Gall ymchwilwyr elwa ar arbenigedd tîm o guraduron arbenigol a holl gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Yn ogystal &aicrc; chasgliad cynrychiadol o hanesion diwydiannol, mae gan y llyfrgell gasgliad o weithiau technegol a chyfarwyddiadau ar gyfer y diwydiannau hyn. Mae gan y llyfrgell set gyflawn o Lloyds Registers o 1836 hyd heddiw (ynghyd â chyfrolau dethol o 1764 i 1832), a chyfres o gyfrolau sy'n rhestru'r llongddrylliadau oddi ar arfordir Ynysoedd Prydain. Mae gan y llyfrgell nifer dda o restri cyhoeddedig o fwyngloddiau a chwareli gweithredol o'r 1850au hyd heddiw. Mae'n cadw cyfresi o gyfnodolion pwysig hefyd gan gynnwys Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau E.M., sy'n rhestru'r holl ddamweiniau marwol a ddigwyddodd rhwng 1850 a 1914. Yn ogystal, rydyn ni wedi tanysgrifio i dros ddeugain o gyfnodolion cyfoes ar hyn o bryd.

Mae'r llyfrgell gyfeirio ar agor i'r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig. Fel llyfrgell gyfeirio, nid yw'n benthyg llyfrau i unigolion, ond gellir trefnu benthyg llyfrau i lyfrgelloedd eraill trwy'r gwasanaeth benthyg rhwng llyfrgelloedd.

Bydd angen trefnu apwyntiad i ddefnyddio'r llyfrgell. I wneud hyn, dylech gysylltu â'r curadur sy'n gyfrifol am yr adran o'r llyfrgell rydych chi am ei gweld.

Amserau agor

Llyfrgell: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10.30am-1pm a 2pm-4.30pm. Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc
Amgueddfa: Pob dydd: 10am-5pm.

Mwy o wybodaeth

Gweld y hafan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.