Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg 'Milltir Euraid' Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

[delwedd: West Glamorgan Archive Service]

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn casglu dogfennau, mapiau, ffotograffau, a recordiadau ffilm a sain sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar hanes Gorllewin Morgannwg. Gwasanaeth ar y cyd yw hwn ar gyfer Cynghorau Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Gall y cyhoedd ddefnyddio holl eitemau'r Archif sydd yn y catalog cyhoeddus ac sydd wedi eu marcio fel eitemau sydd ar gael yn ystafell archwilio'r archif yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Mae'r archif yn defnyddio system docynnau i ddarllenwyr, sy'n golygu bod modd i chi gyrchu archifau eraill yng Nghymru, gan gynnwys archifau Prifysgol Abertawe.

Amserau agor

Dydd Mawrth: 9am-7pm Dydd Mercher i ddydd Gwener: 9am-5pm Dydd Sadwrn: 10am-4pm (Y Ganolfan Hanes Teuluol yn unig) Ar gau pob dydd Sul

I gysylltu

Ffôn: (01792) 636589
E-bost: westglam.archives@swansea.gov.uk

Gwefan

www.swansea.gov.uk/westglamorganarchives

Cyfeiriad

Y Ganolfan Ddinesig, Ffordd Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.