Amgueddfa Abertawe 'Milltir Euraid' Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Swansea Museum

Agorodd Amgueddfa Abertawe ym 1841, a hi yw amgueddfa hynaf Cymru. Fe'i sefydlwyd gan Sefydliad Brenhinol De Cymru, a sefydlwyd ym 1835. Ers 1990, mae'r Amgueddfa wedi bod yng ngofal Dinas a Sir Abertawe.

Mae'r Amgueddfa'n gweithredu ar bedwar safle: y Ganolfan Gasgliadau yng Nglandŵr, y Pontŵn yn y Marina, Canolfan y Dramffordd yn Sgwâr Dylan Thomas a'r Amgueddfa ei hun. Mae casgliadau'r Amgueddfa'n eang, o longau morwrol hanesyddol i borslen cain Abertawe. Mae hyn yn golygu ei bod yn adnodd gwerthfawr wrth ymchwilio i gefndiroedd, bywydau ac amserau pobl Dinas a Sir Abertawe.

Mae gan yr Amgueddfa lyfrgell hanesyddol sy'n cyfeirio at y casgliadau hefyd. Yn y llyfrgell mae casgliad o lyfrau ac effemera sy'n dyddio nôl i'r 19eg ganrif ac mae staff arbenigol wrth law i roi cymorth a chyngor. Rhaid trefnu apwyntiad i ddefnyddio'r llyfrgell gyfeirio ac ni ellir benthyg y llyfrau.

Oriau Agor

Amgueddfa Abertawe: Maw i Sul 10am–5pm a dydd Llun Gŵyl y Banc.
Llyfrgell yr Amgueddfa: Trwy apwyntiad yn unig. Canolfan Gasgliadau’r Amgueddfa, Glandŵr: dydd Mercher 10am-4pm
Y llongau hanesyddol yn y Marina: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad.
Canolfan y Dramffordd: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad

I gysylltu

Ffôn: (01792) 653763
E-bost: Swansea.museum@swansea.gov.uk

Gwefannau

www.abertawe.gov.uk/swanseamuseum
www.swanseaheritage.net

Cyfeiriad

Victoria Road, Abertawe, SA1 1SN

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.