Canllawiau Mynediad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cyngor i ymwelwyr anabl

Audio Version

Sain Gwrando ar fersiwn sain (1.9mb, MP3)

Pobl sy'n methu cerdded yn dda

  • Ceir mannau parcio arbennig ar gyfer ymwelwyr anabl yn y maes parcio, ger prif fynedfa'r amgueddfa. Ceir rampiau'n arwain at y fynedfa a'r siopau.
  • Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio, am ddim, os gofynnwch amdanynt, yn y prif gyntedd. Er na ellir trefnu rhag blaen i ddefnyddio'r cadeiriau hyn ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.
  • Gellir mynd i'r rhan fwyaf o'r safle mewn cadair olwyn. Fodd bynnag, gan fod rhai o'r adeiladau yn ein casgliad yn hen iawn, gall fod yn anodd mynd i fewn iddynt.
  • Mae'n werth nodi hefyd bod tirlun ochr y Castell yn serth mewn mannau ac yn gallu profi'n anodd i rai defnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Nodir y llwybrau haws ar yr arwyddbyst. Gellir prynu copi o fap yn egluro llwybrau addas i gadeiriau olwyn, ac yn dangos unrhyw lethrau serth, am 30c o'r Oriel Groeso. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar arwyddion mawr ar draws y safle.
  • Mae rampiau symudol a lifft ar gael yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale.
  • Mae Cerbyd Teithio Anabl ar gael i gludo ymwelwyr o gwmpas y safle yn rhad ac am ddim. Gall y Cerbyd gludo hyd 5 ymwelydd anabl. Fodd bynnag, yn ôl cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch, dim ond 2 ymwelydd ag anabledd gwael gellir eu cludo ar y tro gyda gofalwr yr un. Gan fod angen gyrrwr sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, gofynnwn i chi archebu'r gwasanaeth hwn bythefnos ymlaen llaw trwy ffonio 029 2057 3500 a gofyn am y Swyddfa Digwyddiadau. Mae'r gwasanaeth am ddim.

Pobl sydd â Nam ar y Golwg

  • Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw clywed y synnau a ffroeni arogleuon ar safle mor amrywiol, o fara ffres yn y Becws a'r tannau agored yn y ffermdai i anifeiliaid y fferm.
  • Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'r adeiladau ac mae llawer o grefftau ac arddangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd yn bleser gan ein staff esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.
  • Gall rhai rhannau o'r safle, fel y nant a'r llynnoedd, beri trafferth i bobl sydd â nam ar eu golwg. Gallwch holi am gyngor wrth y Dderbynfa cyn mynd allan i'r safle.
  • Mae llawlyfrau print bras ar gael i'w benthyg am ddim. Gofynnwch wrth y fynedfa.

Pobl sy'n Drwm eu Clyw

  • Mae byrddau gwybodaeth mawr ger yr adeiladau i gyd.

Anawsterau Dysgu

  • Mae'r arweinlyfr, sy'n cynnwys cynllun o'r safle, yn cyflwyno'r casgliad mewn ffordd glir a chryno sy'n cynnwys nifer o luniau a diagramau. Ceir mapiau mawr o'r safle yma a thraw yn yr amgueddfa.

Uned Lleoedd Newid

  • Mae 'Uned Lleoedd Newid' ar gael yn yr Amgueddfa sy'n cynnwys gwely a theclyn codi trydanol (Molift) yn ogystal â'r tŷ bach a'r adnoddau eraill. Bydd angen allwedd 'radar' i gael mynediad i'r uned sydd ar gael trwy ofyn yn y Brif Fynedfa.
  • Mae'r cyfleuster hwn allan o drefn ar hyn o bryd (14 Gorffennaf 2014).

Cŵn

  • Gallwch ddod â chŵn ar y safle ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar dennyn.
  • Gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci yn y bwyty, yn Oakdale ac yn y castell.
  • Cynigir rhawiau baw i berchnogion cŵn wrth fynd i mewn i'r amgueddfa ac rydym ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad i gadw'r amgueddfa yn lân ac yn ddiogel.
  • Mae croeso i bobl sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw ddod â'u cŵn tywys gyda nhw.

Cyfleusterau

  • Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i’r mannau bwyta, Yr Odyn, Caffi Bardi a Bwtri’r Castell.
  • Ceir toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl wrth y Brif Fynedfa, ger bythynnod Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
  • Ceir cyfleusterau newid babanod ger y Brif Fynedfa.

Am resymau hanesyddol, nid yw ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig yn gallu mynd i bob rhan o bob un o'n hamgueddfeydd. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r sefyllfa lle bo modd. Os oes gennych ryw awgrymiadau a allai ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff neu ysgrifennwch at: —

Claire Thomas-Hanna, Swyddog Amrywiaeth, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Ffôn:
(029) 2057 3500

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

Parcio ceir: £3.50 y car y dydd.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd (yn gynnwys oriau agor dros y Nadolig)

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.