Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Tymor 2000

Prif amcanion tymor 2000 oedd ymgymryd ag archwiliad rhagarweiniol y tu mewn i glosdir canoloesol cynnar y nodwedd a adwaenir fel y 'darddell', ac i gadarnhau aliniad dwyreiniol rhagdybiedig ffos a mur y closdir.

Lleolwyd ffos Y (oddeutu 24 x 14m) dros hanner gorllewinol tarddell y closdir. Cyn cloddio roedd y nodwedd hon, sef y 'darddell', ar ffurf pant ac iddo ochrau serth yn mesur tua 30 x 15m. Gorweddai wyneb y siltiau yn y pant, a oedd yn ddwrlawn ac ar adegau dan ddŵr, ar ddyfnder o oddeutu 1m islaw wyneb y tir cyfagos. Drwy glirio llystyfiant trwchus oddi ar hanner gorllewinol y darddell datgelwyd cyfuchlinau afreolaidd a oedd gynt yn guddiedig, a dangosodd cloddio diweddarach y gellid eu priodoli i nifer o wahanol gyfnodau o weithgaredd, yn enwedig gwaith adeiladu ffynnon ôl-ganoloesol, wedi'i leinio â slabiau, a'r gwaith cloddio a gwaredu defnydd a wnaed yn fwy diweddar i greu'r rhan fwyaf o'r pant presennol er mwyn ffurfio lle yfed mawr ar gyfer gwartheg.

Yn gorwedd yn stratigraffig ar ben pwll hirsgwar cynharach neu 'gronfa', wedi'i leinio â slabiau ac yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar, ceir haen ôl-ganoloesol o rwbel cywasgedig sy'n gysylltiedig ag arllwysfa'r darddell ôl-ganoloesol. Roedd cynllun y pwll hwn yn fwy neu lai yn hirgrwn ac yn mesur 4.7m o ran hyd a 4m o led. Ynddo goroesodd gwaddodion canoloesol cynnar hyd ddyfnder o oddeutu 0.3m ac roeddent wedi'u selio'n uniongyrchol gan haenau ôl-ganoloesol a oedd yn gysylltiedig â'r ffynnon ddiweddarach. Roedd y cyd-destunau canoloesol cynnar yn cynnwys lensys cymhleth o silt llwyd a thywod ac ynddynt lawer iawn o esgyrn anifeiliaid, yn ogystal â nifer o arteffactau canoloesol cynnar diagnostig. Ymhlith y rhain roedd ceiniog arian Edmund (OC 939-46) o'r haenlin ganoloesol gynnar uchaf, a phen ingot arian (arian darniog) a phin o aloi copor ac iddo ben crwn wedi'i addurno â phatrwm nadreddog, gwaith haearn a stribyn o dun plyg wedi'i bwnsaddurno o haenlinau eraill. Adeiladwyd yn ofalus ddau ris carreg yn erbyn slabiau yn leinio ochr ogleddol y pwll, a byddai'r rhain wedi darparu mynediad parod i'r dŵr.

Llesteiriwyd y gwaith o gloddio'r pwll wrth i ddŵr ffynnon foddi'r ffos yn barhaus; er gwaetha cyflwr dwrlawn y safle a'r gwaith gofalus o ogrwn, gyda chymorth dŵr, y defnydd a gloddiwyd, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw arteffactau organig yn y siltiau hyn. Cloddiwyd tua 50% o ddyddodion y pwll canoloesol cynnar ond gadawyd y gweddill ar gyfer tymor 2001.

Darganfuwyd olion stryd balmantog 3m o led, wedi'i hadeiladu'n ofalus ag ymylfeini uchel, i'r gogledd o'r pwll canoloesol cynnar. Mewn pridd du a ddaeth o haen yn union uwchben wyneb y stryd cafwyd hyd i bin cylchog aloi-copor o'r math sy'n perthyn i'r 10fed ganrif.

Cloddiwyd estyniad bach i'r gorllewin o'r ffos er mwyn archwilio llecyn o glai llosg. Cynrychiolai hyn ffwrn gron fawr y codwyd ei muriau ar galchfaen a osodwyd yn y clai (diamedr y ffwrn tua 0.9m). Gorweddai'r ffwrn wrth ymyl aliniad o flociau calchfaen a ymdebygai i gyneilyddion sil mur. Ymddengys fod y ffwrn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar ac fe'i harchwilir ymhellach yn 2001.

Cloddiwyd ffos ar ffurf y llythyren L (Z) uwchlaw llinell ragdybiedig yr amddiffynfeydd dwyreiniol. Dadorchuddiwyd darn byr o fur y closdir (lled oddeutu 2.3m), yn union yr un fath â darnau a ddarganfuwyd yn ystod tymhorau blaenorol. Roedd wyneb allanol y mur yn fwy cyflawn na'r wyneb mewnol, a gawsai ei ddifrodi wrth aredig. Roedd y ffos y tu allan i'r mur tua 1m o ddyfnder, tua 3m o led lle mae'r darn a oroesodd ar ei uchaf ac yn culhau i 1m o led wrth ei droed (creigwely). Fel y nodwyd yn 1999, yn y ffos ar ochr orllewinol y closdir cofnodwyd o leiaf dri chyfnod o aildorri. Cafwyd hyd i nifer fawr o esgyrn anifeiliaid o'i llenwadau uchaf.

Y tu mewn i fur y closdir, cafwyd hyd i gyfres gymhleth o ffosydd yn croesi ei gilydd (rhai tua 0.5m o ddyfnder) a phyllau dan haen o bridd du, rhai yn gynharach nag olion cyfnod y 9fed/10fed ganrif ar y safle. Gorweddai gwli bas (0.4m o led), yn cyfeirio o'r dwyrain i'r gorllewin, yn stratigraffig o dan mur cerrig y closdir, ac roedd o leiaf un o'r ffosydd bas (tua 1m o led) yn troi gan ffurfio closdir bach ac iddo, o bosib, ddiben a dyddiad tebyg i'r 'closdir' y cafwyd hyd iddo yn Ffos T yn 1998. Roedd un darn o ffos fach arall, a dorrai ar draws y 'closdir' hwn, yn cynnwys yr hyn a edrychai'n debyg i fur cerrig a oedd wedi dymchwel, yn lled-gyfochrog â mur y closdir. Mae'n bosibl bod rhai o'r nodweddion yn Ffos Z yn dyddio o'r cyfnod Brythonig-Rufeinig neu'n gynharach, ac yn gysylltiedig â nodweddion y tu allan i'r ffos sy'n hŷn na'r closdir.

Ceiniog arian Edmund (OC 939-46), pen ingot arian (arian darniog), pin o aloi copor ac iddo ben crwn

Cafwyd hyd i nifer o nodweddion cynhanesyddol yn ystod gwaith cloddio tymor 2000. Yn Ffos Z dadorchuddiwyd dau dwll bach ac ynddynt lenwadau siltiog tywyll yn cynnwys crochenwaith, callestr, plisgyn cnau cyll wedi'u llosgi ac esgyrn yn dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar/Oes Efydd cynnar; roedd un o'r rhain yn cynnwys yn ogystal faen crafu a charreg rannol drydyllog.

Cafwyd hyd i grymgladdiad plentyn mewn pydew hirgrwn yn mesur 1.2 x 0.7m, wedi'i leoli i'r dwyrain (y tu allan) o ffos y closdir canoloesol cynnar. Roedd tri slab bach o galchfaen yn leinio ochr ddwyreiniol y pydew (mesur hiraf pob slab, 115mm, 215mm, 240mm), ynghyd â dau slab calchfaen ychydig yn fwy yn gweithredu fel meini capan (y slab yn y pen deheuol yn mesur 460mm o hyd; y llall wedi'i osod ar draws y man canol), mewn dynwarediad o gist. Gorweddai'r plentyn ar ei ochr chwith, â'i ben tua'r gogledd (h.y. yn wynebu'r dwyrain). Ni ddarganfuwyd unrhyw nwyddau claddu. Y llenwad oedd clai gludiog a gafwyd o'r pydew ei hunan.

Roedd y rhan fwyaf o'r crochenwaith cynhanesyddol a gafwyd yn Ffos Z yn fras ac yn drwchus, ac yn cynnwys teilchion ac arnynt addurniadau olion bys-bawd, gwanu a llinellau rhychog. Wedi i ddyddiadau'r claddfeydd a'r pydewau a'r slotiau hynny a chanddynt nodweddion cynhanesyddol gael eu cadarnhau gan ddyddio radiocarbon, bydd yn bosibl asesu perthynas y gladdfa â'r nodweddion cyfoes. Mae'n bosibl roedd y darddell yn darparu dŵr croyw yn ystod y cyfnod hwn ond, hyd yma, nid oes prawf o hyn.

Sylwadau

Er nad aeth tarddell ôl-ganoloesol Llanbedr-goch erioed yn angof gan y trigolion lleol, darparodd ei rhagflaenydd canoloesol cynnar ffurf ddiagnostig ar adeiladwaith ar gyfer y cyfnod hwn. Peth prin iawn yw dod ar draws y fath gyfres hirfaith o weithgaredd wedi'i ganoli ar darddell. Yn Llanbedr-goch mae'n ymddangos y cafodd cronfa ddŵr ei chreu yn ystod y 9fed neu'r 10fed ganrif, fan bellaf, a barnu yn ôl y sbotddyddio cyntaf. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, câi'r darddell ei defnyddio hefyd yn ystod y cyfnodau blaenorol. Hyd yma, ni chafwyd hyd i unrhyw dystiolaeth bendant ynghylch claddu celc-offrymau, nac ychwaith dystiolaeth fod y safle yn fan cysygredig, er ei bod hi'n arwyddocaol y cafodd claddfa sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar/Oes Efydd cynnar ei gosod tua 40m i'r dwyrain o'r darddell ac oddeutu 10m i'r gogledd o arllwysfa ragdybiedig y nant a lifai ohoni. Fel y gwyddom yn iawn, roedd i nifer o fannau dyfrllyd yn y gorffennol arwyddocâd crefyddol arbennig, rhai fel mannau 'trothwyol' lle cysylltai'r 'byd presennol' â'r Isfyd. Bwriedir adolygu arwyddocâd yr arteffactau Rhufeinig o wely'r nant sy'n draenio'r darddell, a'r darganfyddiadau canoloesol cynnar a gafwyd yn siltiau'r pwll yn dilyn gwaith cloddio pellach. Gall nifer o wahanol gymhellion arwain at daflu gwrthrychau i mewn i'r fath nodweddion (yng Nghymru Gristnogol y 10fed ganrif, mae'n bosibl mai 'lwc dda' oedd y cymhelliad ac nid un addunedol), tra bod rhai gwrthrychau yn dod, o bosibl, o gyd-destunau eilaidd.

Roedd y stryd balmantog yn gyfoes ac fe ddarparai gysylltiad uniongyrchol, rhwydd rhwng y pwll ac Adeilad 1 tua'r gogledd. Darpara'r nodweddion hyn allwedd bwysig i drefn ofodol y safle yn ystod y cyfnod Llychlynnaidd. Ymddengys fod y stryd wedi gweithredu fel ffordd o'r de i'r gogledd ar draws y safle. At hynny, mae natur ei hadeiladwaith yn awgrymu bod llecynnau tebyg o balmant calchfaen, a ddarganfuwyd yn 1998, hefyd yn cynrychioli ffyrdd prifwythiennol oddi ar y briffordd hon, yn hytrach na lloriau y tu mewn i adeiladau, fel y credid o'r blaen. Mae'n bosibl y rhedai un o'r ffyrdd hyn tuag adeilad wedi'i leoli y tu mewn i'r mur ar ochr ddwyreiniol y closdir. Mae nifer o ffactorau newydd yn awgrymu closdir anheddu ac iddo'r gallu yn ystod y 10fed ganrif i gartrefu nifer go lew o bobl: (1) y lonydd/strydoedd, wedi'u hadeiladu'n dda, o fewn y closdir; (2) y tebygrwydd bod mwy o adeiladau yn gyfochrog â mur y closdir; (3) y darganfyddiad o ffwrn fawr (yn hytrach na lle tân agored arferol), ar gyfer pobi bara yn ôl pob tebyg.

Cydnabyddiaethau

Rwy'n ddyledus iawn i Roger a Debbie Tebbutt am ganiatâd i ymgymryd â'r gwaith ar eu fferm ac am roi'r darganfyddiadau, yn garedig iawn, i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; i Mr A. Gillespie a Mr P. Corbett, a gafodd hyd i'r safle yn wreiddiol, am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth; i'r tîm cloddio, yn enwedig Evan Chapman, Mark Lodwick, Heather Jackson, David Stevens a Dr Alice Roberts. Diolch yn arbennig i: Dr Steve Burrow am gynnal tudalennau'r wefan, yn ogystal â chymryd rhan ar y safle; Mary Davis am gadwraeth y darganfyddiadau; Alison Brigstocke am wybodaeth am enwau cynnar y caeau; ac i'r gwirfoddolwyr a'r myfyrwyr i gyd a gymerodd ran.

Dr Mark Redknap

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.