Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Tymor 1999

Prif amcanion y tymor tair-wythnos o gloddio a gynhaliwyd yn niwedd Awst a Medi 1999 oedd archwilio'r ardal o gwmpas y ddwy gladdedigaeth a ddarganfuwyd ym 1998, ac archwilio nod cnwd yn y cae i'r de a oedd yn awgrymu bod y clostir a'r system ffosydd yn ymestyn yn bellach i'r de.

Roedd Ffos V yn sgwâr ac yn mesur tua 17m x 10m; datgelwyd rhan drawiadol arall o'r wal amgáu (2.2m o led). Roedd y ffos y tu allan i'r wal tua 1m o ddyfnder ac 1.2m o led yn ei gwaelod, ac yn lledu i tua 3m o led yn y lefel uchaf a oroesodd. Adnabuwyd o leiaf dri chyfnod o aildorri, a chafwyd peth esgyrn anifeiliaid (gan gynnwys cwn) yn y llenwadau uchaf.

Darganfuwyd tair claddedigaeth yn llenwad uchaf y ffos hon, yn union i'r gogledd o'r claddedigaethau a ddarganfuwyd ym 1998. Yr oedd un plentyn/person ifanc a dau oedolyn wedi eu claddu heb ofal na seremoni. Fel yn achos claddedigaethau 1998, yr oeddent yn gorwedd yn fras mewn cyfeiriad gogledd-de/de-gogledd yn hytrach na dwyrain-gorllewin. Cafwyd y plentyn/person ifanc yn llenwad uchaf y ffos, yn gorwedd a'i ben tua'r de a'i draed tua'r gogledd. Yr oedd oedolyn wedi ei daflu yn union ar ben ei gorff, y tro yma gyda'r pen tua'r gogledd. A barnu oddi wrth safle anarferol y breichiau, mae'n bosibl bod arddyrnau'r oedolyn wedi eu clymu y tu ôl i'w gefn.

Ymddengys fod yr holl gyrff wedi eu taflu'n ddiseremoni i feddau bas a wnâi ddefnydd o'r pant a grëwyd gan y ffos amgáu a oedd bellach wedi llenwi â llaid. Mae amgylchiadau'r claddu a'r diffyg cyfeirio Cristnogol wedi peri dyfalu i'r tri oedolyn a'r ddau blentyn ddioddef ymosodiad gan Lychlynwyr.

O fewn y clostir, yr oedd ffos fas (1.4m o led) yn gorwedd yn stratigraffig islaw dyddodion tom y credir eu bod yn hyn na dyddiad adeiladu'r wal amgáu garreg. Yr oedd ffos lai neu rych, tua 40cm o led, yn gorwedd yn unionsgwar i brif echelin y nodwedd hon, ac i'r gorllewin o'r wal. Mae hon yn nodwedd gynnar, ac efallai bod cysylltiad rhyngddi â'r 'clostir' a gafwyd yn ffos T ym 1998 (gweler uchod).

Lleolodd Ffos W (tua 20 x 21m) gornel dde-orllewinol y clostir yn y cae cyfagos. Cadarnhaodd hyn fod y safle yn fwy nag a gredwyd yn wreiddiol, a'i fod oddeutu 1 ha (tua 2.2 acer) o faint. Cafwyd olion cafn palis a chlawdd, a oedd yn hyn na'r wal amgáu garreg, ac a oroesodd fel gwasgariad o gerrig tua 4m o led. Awgrymwyd dyddiad cyn y nawfed ganrif ar gyfer y cyfnod cynnar hwn gan y dyddiad radiocarbon a gafwyd o'r siercol o fewn y pridd a ailddyddodwyd yn y clawdd sef OC 615-875 (Beta 138878, 1320 +/- 70 BP). Roedd y ffos amgáu yn yr ardal hon tua 1.4m o led, ac o leiaf 1m o ddyfnder (rhwystrwyd cloddio llwyr gan y lefel trwythiad). Roedd twmpath llosg yn mesur tua 2m x 1m, a orweddai dan glawdd y clostir, wedi ei drychu gan y ffos hon. Gwyddom bellach fod y twmpath llosg yn perthyn i Ddiwedd yr Oes Efydd, gan iddo roi dyddiad radiocarbon o 1130-885 CC (Beta 138876, 2880 +/- 50 BP).

Dehongli tymor 1999 (fel y'i cyhoeddwyd)

Mae arteffactau canoloesol cynnar a gafwyd yn ystod cloddiadau 1999 yn cynnwys mownt addurnol o aloi copr gyda rhyngles, a mownt milffurf o aloi copr ar ffurf aderyn. Mae'r claddedigaethau yn arbennig o ddiddorol. Mae'n bosibl i'r pum unigolyn gael eu claddu yr un pryd, ac nid ymddengys i unrhyw ymgais gael ei gwneud i'w coffáu na nodi man eu claddu. Mae nifer o ymholiadau ar y gweill i bennu eu hoedran ac achos eu marwolaeth, dyddiad tebygol eu marw, ac a ellir canfod unrhyw gysylltiadau teuluol rhyngddynt. Mae'r dystiolaeth stratigraffig a radiocarbon yn awgrymu i'r claddu ddigwydd rywdro rhwng c.850 a 925, ac mae'n dra phosibl i Lychlynwyr ymosod ar y safle a'i feddiannu am gyfnod. Yn y flwyddyn 2000 bwriedir archwilio'r dyddodion yn y ffynnon sydd o fewn y clostir. Beth am ddilyn dyddiadur cloddio'r prosiect wrth iddo ddigwydd? Gellir dod o hyd iddo rhwng 14 Awst a 1 Medi 2000 ar http://www.aocc.ac.uk/archeoleg/2000/anglesey/

Cydnabyddiaeth

Rwy'n hynod o ddiolchgar i Roger a Debbie Tebbutt am ganiatâd i gynnal y gwaith ar eu fferm ac am eu haelioni yn rhoi'r darganfyddiadau i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; i Mr A. Gillespie a Mr P. Corbett a ddarganfu'r safle yn y lle cyntaf am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth; i'r tîm cloddio, yn arbennig Evan Chapman, Mark Lodwick, Mark Lewis, David Stevens a Dr Alice Roberts; diolch yn arbennig i Dr Steve Burrow am gynllunio a chynnal tudalennau'r safle ar y wefan, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith ar y safle; i Alison Brigstocke am wybodaeth am enwau cynnar y caeau; ac i'r holl wirfoddolwyr a'r myfyrwyr a fu'n rhan o'r gwaith.

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.