Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Tymor 1998

Y prif amcanion ym 1998 oedd ymchwilio ymhellach i ben dwyreiniol Adeilad 2 (a nodwyd gyntaf ym 1995, ac sy'n dyddio i'r ddegfed ganrif), a chwblhau gwaith cloddio i gael trawslun ar draws y lloc a'r systemau ffosydd canoloesol cynnar ar ymyl dwyreiniol y safle.

Roedd y brif ffos (Ffos 'R') ar siâp L a thua 45m x 8m; gydag estyniad tua'r gogledd (R1) yn datgelu pen dwyreiniol Adeilad 2. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith gofaint dan fewnlenwad diweddarach yr adeilad hwn, ac ymchwiliwyd i nifer o nodweddion bychan a dorrwyd gan y sylfeini carreg yn y pen dwyreiniol (dyddiad radio carbon llenwad un pydew oedd OC 405-670 (Beta-123198, 1510 +/- 80 BP). O un traen â leinin o gerrig cafwyd dyddiad radio carbon OC 630-980 (Beta-123196, 1270 +/- 90 BP). O'r llenwad o ganol pydew mawr crwn â leinin carreg calch (ar ffurf 'estyll') cafwyd dyddiad radio carbon OC 640-890 (Beta-123209, 1290 +/- 70 BP). Yn Ffos 'R2', gwelwyd bod adeiledd canoloesol cynnar yn gorwedd dros ffos fewnol ddwyreiniol y lloc, a chafwyd dyddiad radio carbon OC 680-905 ac OC 920-950 (Beta-123206, 1230 +/- 50 BP). Dyddiad y llenwad isaf yn y ffos allanol yw OC 540-770 (Beta-123200, 1410 +/- 70 BP).

Bu Ffosydd 'S' a 'T' yn rhan de-orllewin y lloc yn edrych ar domen sbwriel o'r bumed/chweched ganrif ac yn ailwerthuso perimedr gorllewinol y lloc a nodwyd ym 1997. Yn Ffos 'S', darganfuwyd wal anferth 2.2m o led, yn fras ar linell gogledd-de. Roedd hon wedi'i chodi â blociau carreg galch mawr a rwbel yn ei mewnlenwi. Daethpwyd o hyd i olion y wal (wedi dymchwel) ym 1997 oddi mewn i ffos y lloc ar ochr gyferbyn (dwyreiniol) y safle. Mae'r wal yn Ffos 'S' mewn cystal cyflwr oherwydd iddi suddo i 'bridd du' a oedd yno o'i blaen yn gynharach, a'r ffaith nad oedd y man dan sylw wedi dioddef cymaint o'r aredig oherwydd bod y sgrap garreg galch yn pantio'n sydyn yn y fan hyn. Mae suddo tebyg wedi gwarchod cornel adeilad gyda seiliau carreg galch (tebyg i Adeiladau 1 a 2) sydd â'i wal gefn yn baralel i wyneb mewnol y wal amddiffynnol. Mae dyddodyn yn union o dan yr adeilad wedi rhoi dyddiad radio carbon OC 690-990 (Beta-123201, 1190 +/- 60 BP).

Roedd ysgerbydau dau unigolyn yn y llenwad uchaf mewn ffos y tu allan i wal y lloc. Roedd y ffos, gyda dyddiad radio carbon OC 620-775 (Beta-123212, 1360 +/- 50 BP), yn barhad o'r ffos allanol ar ochr arall y lloc. Yn groes i'r arferiad Cristnogol, roedd y ddau wedi'i claddu yn wynebu gogledd-de yn hytrach na dwyrain-gorllewin. Roedd un ysgerbwd yn estynedig, gyda'i goesau wedi'u plygu rhyw ychydig; roedd y llall yn Nghymru, ac yn gorwedd ar ei ochr chwith. Mae'n ymddangos bod yr unigolion wedi marw'n ifanc, ac wedi'u claddu dan domen o gerrig, yn hytrach nag mewn mynwent leol. Tybed a oeddem wedi dod wyneb yn wyneb â thystion Oes y Llychlynwyr ym Môn? Yn fis Tachwedd 1998 fe gymerwyd sampl o un o esgyrn y goes o'r ysgerbwd estynedig, a chafwyd dyddiad OC 770-970 (Beta-123213, 1460 +/- 70 BP). Efallai y bydd gwaith cloddio pellach yn yr ardal yn rhoi cliwiau i amgylchiadau eu marwolaeth, ac a oes eraill wedi'u claddu yma ai peidio.

Yn Ffos 'T' hefyd fe gafwyd wyneb arall palmantog. Mae'n bosibl mai llawr mewnol adeilad coed sydd dan olion tomen sbwriel ar ei ymyl gorllewinol. Roedd hwn yng nghanol lloc bychan â ffos o'i amgylch - lloc tuag 8m ar draws, gyda ffos fwy tua'r de. Dyddiad radio carbon llenwad y ffos leiaf oedd OC 630-780 (Beta-123197, 1350 +/- 50 BP). Cafwyd dyddodion sercol a chlai wedi'u tanio yn y fan hyn, yn gysylltiedig â gweithio metel mae'n debyg, a chafwyd dyddiadau radio carbon sef OC 530-780 (Beta-123202, 1410 +/- 80 BP).

Dehongli tymor 1998 (fel a gyhoeddwyd)

" Mae darganfod y wal amddiffynnol sylweddol o amgylch y safle a thystiolaeth ar gyfer pedwerydd a phumed adeilad wedi rhoi persbectif newydd ar edrychiad a threfn y safle hynod hwn. Ymhlith yr arteffactau canoloesol cynnar a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio y mae gleiniau gwydr aml-liwiog, darnau o gribau asgwrn wedi'u haddurno a chloch fechan gydag addurniad cylch a smotyn. Mae darn motiff plwm gydag addurniad wedi'i bwnsio yn awgrymu y gallai pobl fod yn cynhyrchu breichdorchau llydan o fath Gwyddelig-Nordig ar y safle yn ystod y 10fed ganrif. "

Mae'n ymddangos bod yr anheddiad yn Llanbedrgoch yn cynrychioli safle o fath newydd yng Nghymru'r nawfed/degfed ganrif - sef canolfan ar dir isel, amlswyddogaeth wedi'i hamddiffyn.

  1. Fferm ganoloesol gynnar, gyda rhywfaint o grefftau'n cael eu cynhyrchu. Adeiladau pren o fewn lloc, gyda chlawdd a ffos o'u hamgylch.
  2. Claddedigaethau tua 850 yn llenwad uchaf ffos y lloc a oedd yn llawn llaid. (Mae'n cyfateb i gyfnod Rhodri Mawr (844-877/8) a fu'n gwrthsefyll cyrchoedd y Llychlynwyr.)
  3. Ailfodelu'r safle. Uwchraddio'r perimedr gyda wal amddiffynnol gref; codi Adeiladau 1-5 o amgylch man agored canolog, gyda syfaeni cerrig. (Mae'n cyfateb i gyfnod o sefydlogrwydd dan Hywel Dda, a llai o gyrchoedd gan y Llychlynwyr.)
  4. Datblygu'r safle yn ganolfan amlswyddogaeth; twf cysylltiadau masnachol Gwyddelig-Nordig wrth i'r arfordiroedd o amgylch Môr Iwerddon droi'n un gymuned 'Sgandinafaidd' ei chwaeth.

Mae'n dal yn bosibl fod y Llychlynwyr wedi 'meddiannu' y safle dros dro. Dichon y bydd y rhaglen gloddio arfaethedig yn rhoi cliwiau pwysig i'r drefn mewn maenolau pwysig os nad llysoedd, a'u maerdrefi dibynnol - mae'n bosibl fod yma system a ragflaenai system gymydau yr 11eg ganrif yng Ngogledd Cymru. Ym 1999 rydym yn bwriadu ymchwilio ymhellach i'r olion claddu ac archwilio rhan ddeheuol y lloc.

Cydnabyddiaethau

Rydym yn dra dyledus i berchennog y tir am ei ganiatâd caredig i gynnal y gwaith ar ei dir ac am ei haelioni yn cyfrannu'r darganfyddiadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru; i'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd am grant tuag at gost y gwaith cloddio ym 1994; i'r bobl gyntaf i ddarganfod pethau ar y safle, sef Mr A. Gillespie a Mr P. Corbett, am eu cydweithrediad parod ac am gyfrannu eitemau; i dîm geoffisegol 1994, sef Mike Hamilton a Steve Mills; ac i'r timau cloddio, yn arbennig Jerry Bond, Evan Chapman, Martin Comey, David Griffiths, Mark Lodwick, Brian Milton, Richard Mourne, David Stevens a Chris Swanson; ac i Mary Davis, Penny Hill, Louise Mumford a Katherina Wollny am lanhau a gwarchod y darganfyddiadau; i'r holl wirfoddolwyr a'r holl fyfyrwyr o Gaerdydd, Bournemouth, Exeter a Llundain.

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.