Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Tymor 1997

Cafodd pedwar maes sylw ym 1997. Yn debyg i'r tymhorau blaenorol, y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol ar y safle oedd nifer fechan o fflintiau, o'r cyfnod Mesolithig neu Neolithig, a llawer o olion crochenwaith wedi'i wneud â llaw. Cafwyd hyd i nifer o nodweddion bas tua'r de o'r ffos ganoloesol gynnar yn rhan ogleddol y lloc. Roedd y rhain yn debyg i'r nodweddion o ddiwedd y cyfnod Neolithig/dechrau Oes yr Efydd a ddarganfuwyd ar y safle yn y blynyddoedd cynt.

Cwblhawyd cloddio Adeilad 1 (Ffos 'H'), sef t hir yn wreiddiol, 6m o led wrth tua 11.2m o hyd. Credid bod ambell godiad tir naturiol yn y t yn cynrychioli safle meinciau isel i gysgu ac eistedd arnynt. Roedd y rhain wedi'u gosod ar hyd y waliau ar dair ymyl i'r aelwyd ganolog. Roedd yr aelwyd wedi'i gosod ar ffurf betryal gydag ymylfeini, ac roedd wedi'i ail-leinio â chlai nifer o weithiau. Daethpwyd o hyd i bystdyllau o fewn yr adeiledd. Llwyddwyd i fod yn fwy manwl gyda dyddiadau radio carbon yr adeilad (OC 780-980) gan ddefnyddio dyddio archeomagnetig ar yr aelwyd gan The Clark Laboratory. Roedd hyn yn dangos i'r aelwyd gael ei defnyddio am y tro olaf rhwng tuag OC 890-970. Roedd rhigol gromliniol yn gysylltiedig â thyllau polion a dwb wedi'i danio yn gorwedd yn stratigraffig dan Adeilad 1, ac yn parhau'r rhigol a ddaeth i'r fei ym 1995. Y gred oedd ei bod yn rhan o d crwn bychan gyda diamedr tua 5m, a chafwyd dyddiad radio carbon o lenwad y rhigol, sef OC 680-885 (Beta-113392, 1250 +/- 40 BP). Roedd pen gorllewinol y neuadd neu'r ysgubor fawr (Adeilad 2) yn union i'r dwyrain yn cael ei gynrychioli gan ychydig o gerrig rwbel o fewn ffos sylfaen fas. Roedd dyddiadau radio carbon o fewn yr adeilad eisoes wedi sefydlu ei fod yn dod o'r un cyfnod yn fras ag Adeilad 1 (tuag OC 855-1000). Roedd yr adeilad petryal yn 8m o led wrth 12m o hyd; roedd wyneb palmantog yn cysylltu'r ddau adeilad yn wreiddiol. Roedd pystdwll y credir ei fod yn rhan o neuadd goed dan Adeilad 2 yn rhoi dyddiad radio carbon OC 620-800 (Beta-113402, 1340 +/- 60 BP).

Mewn ffos gul ('N') ar draws y ffos ddwbl a ddatgelwyd yn wreiddiol gan y magnetomedr ym 1995 (ar ymyl ddwyreiniol y lloc), cafwyd tystiolaeth ar gyfer clawdd bychan o bosibl gyda cherrig ar yr ochr fewnol; dwy nodwedd linol gul y credid eu bod yn slotiau palisâd o fewn ffos y lloc gan ddiffinio terfyn yr anheddiad (un yn rhoi dyddiad radio carbon OC 645-800 (Beta-113403, 1320 +/- 50 BP). Roedd y nodwedd hon wedi cwympo'n rhannol i ran uchaf llenwad ffos gynharach. Roedd llenwad isaf y ffos honno'n rhoi dyddiad radio carbon OC 555-665 (Beta-113383, 1450 +/- 40 BP), ac o ganlyniad roedd wedi goroesi unrhyw darfu a fu'n ddiweddarach.

Cafodd trydydd man yng nghornel de-orllewin y lloc (Ffos 'O') ei archwilio er mwyn sefydlu cyd-destun clwstwr o ddarganfyddiadau ym 1996 mewn pridd wedi'i aredig. Gwelwyd bod 'pridd du' wedi cronni yn erbyn sgarp carreg galch hyd at ddyfnder o 0.8m. Ynddo roedd llawer o esgyrn anifeiliaid ac amryw o arteffactau. Yn eu plith roedd offer haearn â socedau ar gyfer gwaith lledr, hoelion a mowntiau aloi copor a chenglau bwced. Daethpwyd o hyd i ran deheuol o'r ffos a amgylchynai'r lloc, ac yn y llenwad roedd broets pen aderyn aloi copor o'r seithfed ganrif.

Dehongli tymor 1997 (fel a gyhoeddwyd)

" Mae gwaith cloddio 1997 wedi gwthio dyddiad anheddiad y lloc yn ôl i'r chweched ganrif, a hyd yn oed yn gynharach o bosibl. Cafwyd gyda ffosydd mewnol ac adeiladau pren o'r cyfnodau cynharaf - h.y. cyfnod y brenin Cadfan (Catamanus Rex, brenin Gwynedd, a goffawyd ar arysgrif o Langadwaladr, a fu farw yn 625). Ymddengys i bobl ddefnyddio'r safle yn barhaus tan ddiwedd y ddegfed neu ddechrau'r unfed ganrif ar ddeg (sef cyfnod Hywel Dda, a fu farw yn 950, a Gruffudd ap Cynan, a fu farw ym 1137). Mae'n ymddangos bod y safle ar ei anterth yn y ddegfed ganrif, a cheir tystiolaeth ar gyfer cynaeafu cnydau, cadw da byw, presenoldeb crefftwyr, a chysylltiadau â masnachwyr 'Sgandinafaidd'. Mae'r froets pen aderyn o'r 7fed ganrif yn cyfateb i rai Sacsonaidd o Swydd Efrog (Sewerby, ac Uncleby), ac mae'n ein hatgoffa o'r cysylltiad ar y pryd rhwng Môn a Northumbria: brenhiniaeth y brenin Edwin o Northumbria, a gofnodwyd yn Tribal Hidage, a chofnod Bede o oruchafiaeth Edwin dros y Brythoniaid, yn enwedig Môn a Manaw. Cadwallon oedd yn gyfrifol am farwolaeth Edwin yn 633, a oedd yn ôl traddodiad diweddarach wedi'i fabwysiadu gan dad Cadwallon, sef Cadfan. Yn 634 fe laddwyd Osric gan Cadwallon, a daeth yn rheolwr Deira (yng nghyffiniau Efrog) gan reoli Northumbria am flwyddyn.

Y peth hynod yw fod yr anheddiad o Oes y Llychlynwyr ar safle brodorol llawer cynharach gyda ffos o amgylch y lloc, clawdd, adeiladau pren ac aelwydydd gweithio metel, sy'n cydymffurfio â phatrwm yr anheddau a oedd yno ynghynt. Yr hyn sy'n arwyddocaol iawn yw i ni ddarganfod t crwn plethwaith a dwb o gyfnod cyn Oes y Llychlynwyr, sef t yn gysylltiedig â neuadd bren - gan ein hatgoffa o'r lloc ym Mhant-y-saer tua'r gogledd o'r safle, lle mae cyfres gymhleth o gytiau a chyfnodau. Mae'n dwyn i gof hefyd ddisgrifiad enwog Gerallt Gymro, a oedd yn ysgrifennu yn niwedd y ddeuddegfed ganrif am yr adeiladau yng Nghymru, sef 'adeiladau wedi'u gwneud o rodenni wedi'u plethu, y gellid byw ynddynt am flwyddyn, wedi'u codi gyda chyn lleied o lafur a chyn rhated â phosibl'. Mae'r gwaith cloddio yn Llanbedrgoch wedi dangos y gallai fod tai crwn plethwaith a neuaddau mawr o bren yn bennaf yn bodoli ar y safle ar yr un pryd yn y seithfed a'r wythfed ganrif."

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.