Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Tymor 1996

Y brif amcan ym 1996 oedd ymchwilio a cheisio deall rhagor am ardal o fewn y lloc canoloesol cynnar o amgylch Adeiladau 1 a 2. Roedd y ffos fwyaf tua 60m x 30m; roedd dau estyniad tua'r gogledd-orllewin a'r gogledd yn rhoi croestoriad ar draws y ffos a amgylchynai'r lloc.

Fel y nodwyd ym 1995, y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol ar y safle oedd darnau fflint; mae'r fflintiau a gafodd eu harchwilio yn awgrymu cyfnod Mesolithig, Neolithig neu ddechrau Oes yr Efydd. Roedd ychydig o nodweddion bas yn cynnwys crochenwaith bras wedi'i dempro â chwarts yn y cyfnod Neolithig/dechrau Oes yr Efydd o ran natur. Agorwyd ffos fechan tua'r de o'r brif ardal er mwyn ailarchwilio pydew a ddarganfuwyd wrth gloddio ym 1995. Yn y pydew hwnnw fe gafwyd bowlen o'r math Peterborough wedi'i haddurno'n gelfydd. Mae un nodwedd fechan a gofnodwyd ym 1995 bellach wedi rhoi dyddiad radio carbon rhwng 3485-3465 CC a 3375-3090 CC (Beta-90547, 4560 +/- 50 BP); dyddiwyd ffos a dorrwyd gan y nodwedd lle'r oedd y bowlen o'r math Peterborough rhwng 36655-3620 CC a 3575-3535 CC (Beta-101536, 4830 +/- 60 BP).

Roedd nifer fechan o ddarnau o botiau o'r brif ardal gloddio a darn o froets yn dangos ychydig o weithgarwch Brythonig-Rufeinig ar y safle. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y dyddiadau radio carbon ar gyfer nifer o nodweddion. Dyddiad un pydew oedd OC 265-290 ac OC 320-540 (Beta-90549, 1650 +/- 50 BP); a dyddiad rhigol fechan yw 5 CC - OC 645 CC (Beta-90544, 1720 +/- 150 BP).

Roedd y prif lenwad yn y ffos a amgylchynai'r lloc yn rhoi dyddiadau radio carbon o OC 650-865 (Beta-90548, 1300 +/- 50 BP) ac OC 645 at 975 (Beta-90546, 1290 +/- 80 BP). Roedd ychydig o arteffactau yn llenwadau'r ffos yn cadarnhau dyddiad rhwng y seithfed a'r nawfed ganrif. Gwelwyd ardaloedd bychan crwn o glai coch bob yn hyn a hyn oddi fewn i ffos y lloc a'r gred yw eu bod yn dangos lle'r oedd aelwydydd diwydiannol yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n bosibl eu bod yn wreiddiol y tu ôl i glawdd a godwyd gyda'r deunydd dynnwyd o'r ffos. Yn y llenwad o un aelwyd siâp bowlen daethpwyd o hyd i geiniog Northumbria ('styca') o hanner cyntaf y nawfed ganrif. Ar ochr ogleddol y neuadd bren a oedd dan Adeilad 2 (ac o gyfnod cynharach), roedd cilbyst mawr wedi'u paru â physt llai tua'r gogledd.

Roedd y berthynas rhwng yr holl adeiladau petryal â sylfeini cerrig yn dal yn gymhleth, ond mor fuan â hyn yn y gwaith cloddio roedd y prif gamau yn dod yn amlwg. Roedd Adeilad 1(a) yn 'dŷ hir' cul, petryal o leiaf 11.2m o hyd a 5.6m o led, ar seiliau o gerrig calch wedi'u gosod yn ofalus, heb eu bondio. Roedd draen wedi'i leinio â cherrig a'i gapio, a ddarganfuwyd yn 1995, gyda gwaelod wedi'i dorri i'r graig, yn rhedeg mewn llinell syth, o'r gogledd i'r de yn fras am tua 7m, yn groeslinol ar draws tu mewn yr adeilad. Mae'n ymddangos bod y draen ar gyfer traenio llawr y neuadd. Roedd hanner gogleddol llawr y neuadd wedi'i wneud un ai o gerrig llorio neu garreg galch noeth. Yn hanner gogleddol yr adeilad roedd aelwyd betryal da gydag ymylfeini (1m x 1.6m). Roedd o leiaf dair haen o glai dan y llenwad lludw. Y dyddiad radio carbon oedd OC 780-980 (Beta-101535, 1170 +/- 40 BP).

Daethpwyd o hyd i ben dwyreiniol Adeilad 2, gan gadarnhau bod yr adeilad o leiaf 8.9m o led ac 14m o hyd. Lle'r oedd tystiolaeth o waliau wedi goroesi, gwelwyd eu bod yn seiliau waliau cerrig sych, parhaus o fewn ffos fas. Mae'n debyg y byddai adeilad pren ar eu pennau. Gwelwyd bod y pystdwll a gloddwyd yn 1994 wedi'i leoli yn rhan uchaf y llenwad mewn swmp neu draen ar ffurf baddon wedi'i dorri i'r graig yng nghanol llawr yr adeilad hwn, ac wrth ymyl nifer o gerrig llorio yn y canol. Mewn pridd ac ati yn gysylltiedig ag Adeilad 2 roedd arteffactau o'r ddegfed ganrif, gyda rhagor o gyllyll haearn, darnau o feini melin crwn, darnau o gorn carw a dau gorn carw coch oedd fwy neu lai'n gyfan (ond gyda'r canghennau wedi'u tynnu'n rhannol).

Ymhlith y gwastraff gweithio metel a ddarganfuwyd ym 1996 roedd diferion arian ac efydd, ac un sbriw castio efydd. Cafodd un o nifer o ffosydd yn rhedeg i'r gogledd-de o fewn y lloc ei dyddio i'r ddegfed ganrif (roedd pin dolennog yn y llenwad). Roedd y ffos yma'n awgrymu bod y lloc wedi'i rannu'n rannau llai. Roedd ffos fwy, yn fras i gyfeiriad GGOn-DDDdn, yn torri trwy ben dwyreiniol Adeilad 2. O'r llenwad yno cafwyd dyddiad radio carbon OC 895-1265 (Beta-101526, 960 +/- 90 BP). Roedd y ffos yn baralel i un a ddarganfuwyd ym 1995. Roedd honno'n rhoi dyddiad radio carbon OC 880-1265 (Beta-90545, 980 +/- 100 BP). Ar un pwynt, roedd llawer o gregyn molwsgiaid yn llenwad y ffos newydd, gan awgrymu ei bod yn domen gwastraff.

Dehongli tymor 1996 (fel a gyhoeddwyd)

" Roedd tystiolaeth ar ffurf arteffactau, nwmismateg a radio carbon ar gyfer y safle aml-gyfnod hwn yn dangos presenoldeb anheddiad brodorol pwysig o gyfnod Rhodri Mawr (a chynharach mae'n debygol). Mae'r darganfyddiadau o'r lloc yn awgrymu gweithgarwch Gwyddelig-Nordig yn gysylltiedig â'r safle yn ystod y ddegfed ganrif. Ymddengys bod y safle wedi bod yn fferm, canolfan cynhyrchu crefftau a chanolfan fasnachu yr un pryd yn y ddegfed ganrif. Er na chafwyd hyd i glawdd terfyn, mae lleoliadau'r aelwydydd yn awgrymu eu bod y tu ôl i glawdd a luniwyd gyda'r pridd dynnwyd wrth gloddio'r ffos (a bod y clawdd ei hun wedi diflannu wrth i'r tir gael ei aredig ers hynny)."

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.