Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Yr Arteffactau

Erbyn hyn mae'r casgliad o arteffactau o Lanbedr-goch yn sylweddol (dros 2,000 o eitemau) ac mae wedi ychwanegu'n fawr at gyfanswm arteffactau'r cyfnod Llychlynnaidd a oedd yn hysbys o Gymru o'r blaen, gan wneud y safle yn un a elwir yn 'gynhyrchiol'.

Arteffact 1
1
Arteffact 2
2
Arteffact 3
3

Darparu bwyd a nwyddau i'r anheddiad

1. Nid yw'r esgyrn anifeiliaid niferus wedi'u dadansoddi eto, ond mae'r argraffiadau cyntaf yn cadarnhau pwysigrwydd anifeiliaid dof, megis gwartheg, yng nghyd-destun economi'r safle.

2. Cafwyd hyd i rawn haidd wedi'u carboneiddio ar yr aelwyd yn Adeilad 1 ac roedd haidd, ynghyd â gwenith a cheirch, yn gnwd brodorol pwysig ym 'Môn, mam Cymru'.

3. Hoelion wedi'u clensio o'r domen sbwriel. Mae'r hoelen fwyaf yr un fath yn union â hoelion y llongau Llychlynnaidd a ddarganfuwyd yn Nulyn a Balladoole ar Ynys Manaw.

Sangkhuma Hmar, cenhadwr o India, ym Maesteg ble mae'n byw gyda'i deulu.
Sangkhuma Hmar ym Maesteg
Arteffact 5
5
Arteffact 6
6

Crefftau

Awgryma rhai darganfyddiadau yr arferai'r safle ddenu crefftwyr a masnachwyr a oedd yn rhan o weithgaredd economaidd a gwleidyddol y Llychlynwyr ('Gwyddelig-Lychlynnaidd') yng nghyffiniau Môr Iwerddon, er bod ansicrwydd ar hyn o bryd ynglyˆn â phwysigrwydd a maint diwydiant mewn perthynas â ffermio.

4. Ymhlith yr offer ceir pen morthwyl, ynghyd â mynawyd socedog a nifer o 'offer socedog danheddog' yn gysylltiedig â gwaith lledr. Gwyddys am offer danheddog tebyg a gafwyd ar nifer o safleoedd canoloesol cynnar yn Iwerddon a Lloegr, gan gynnwys Dulyn, Whithorn ac Efrog. Gellid creu pob math o nwyddau o grwyn, megis esgidiau, gweiniau, pyrsiau, beltiau, gwregysau a harneisiau.

5. Adnabuwyd castinau arian ac efydd ar ffurf diferynnau o arian ac aloi copor ac efallai bod sbriw gwastraff yr aloi copor yn deillio o gastio gemwaith ac addurniadau a fasgynhyrchwyd. Ar wyneb yr ingot aloi copor bach ceir tolciau bach a grewyd wrth ei daro â morthwyl bach.

6. Darn plwm arbrofol (anghyflawn) wedi'i stampio ag addurn a breichdlws band llydan o fath Gwyddelig-Lychlynnaidd, o Lanbedr-goch. Ystyrir yn gyffredinol fod y rhan fwyaf o'r breichdlysau bylchgrwn o'r math yma yn Wyddelig-Lychlynnaidd o ran eu tarddiad, cynnyrch pwysig gofaint arian Dulyn, ond efallai y cawsant eu gwneud ym Môn hefyd.

Arteffact 7
7
Arteffact 8
8

Masnach a chyfnewid

Ar rai gwrthrychau y cafwyd hyd iddynt yn Llanbedr-goch ceir nod amgen digamsyniol arddull Gwyddelig-Lychlynnaidd sy'n nodweddiadol o gyffiniau Môr Iwerddon, ac awgryma hyn fod i'r safle swyddogaeth bwysig yn ystod hanner cyntaf y 10fed ganrif fel canolfan fasnach, dymhorol efallai, yn ystod teyrnasiad Hywel Dda:

7. Arian o'r closdir. Mae'n cynnwys ceiniogau arian yn dyddio o ganol y 10fed ganrif, darn o dirhem Cwffig, pen strap, modrwy, a darnau o arian (arian darniog).

8. Detholiad o oddeutu 19 o bwysau plwm amrywiol eu ffurf (disgaidd, conigol, sffêr trychedig, sgwâr a chapiog) a'u maint (6.39g i 46.8g). Mae dau wedi'u capio â gwaith metel ynysol a ailgylchwyd, sy'n dyddio o'r nawfed ganrif, (mownt enamel tebyg i rai o ogledd Lloegr a Gwlad yr Iâ, a'r derfynell efydd euraid o dlws ffug-fylchgrwn sy'n dyddio o'r nawfed ganrif).

Arteffact 9
9
Arteffact 10
10
Arteffact 11
11
Arteffact 12
12
Arteffact 13
13

Domestig

9. Pinnau cylchog aloi copor yn dyddio o'r ddegfed ganrif, un â phen balwstr, yn debyg i enghreifftiau o Gaer, Dulyn ac Efrog.

10. Mownt ffrwyn haearn. Mae'r celloedd wedi'u llenwi â naill ai enamel coch neu felyn yn ffurfio patrwm grisiog o amgylch croes ganolog ac iddi freichiau cymesur. Mae'r defnydd o haearn ar gyfer gwaith enamel, yn y traddodiad Celtaidd canoloesol, bron yn anhysbys yn Ewrop y cyfnod ac yn brin iawn yn Iwerddon.

11. Bwcl wedi'i enosod ag arian a phen strap haearn. Mae'r bwcl yn debyg i rai o Whithorn, tra bod y pen strap, un o dair enghraifft o'r un fath o'r safle, yn debyg i rai o Efrog.

12. Cafwyd hyd i bedair cloch aloi-copor fach, dwy mor ddiweddar â Mehefin diwethaf, ond dim un o gyd-destun haenog: mae dwy o fath chweonglog ac iddynt draed ymwthiol ar bob ongl. Mae enghreifftiau a ddarganfuwyd mewn beddau, megis bedd VII yn Peel, Ynys Manaw, yn awgrymu i Eldjarn ac eraill efallai y caent eu gwisgo fel swyndlysau ar leindorch. Mae llawer yn dyddio o'r 10fed ganrif ac mae eu dosbarthiad yn ymestyn o Wlad yr Iâ i ogledd yr Alban (Caithness, Sutherland), ac o gyffiniau Môr Iwerddon (Manaw a Meols) i'r Ddaenfro.

13. Pen strap arian ac arno olion enosodiad nielo a ddarganfuwyd ger y darddell y tu mewn i glostir y cyfnod Llychlynnaidd. Mae'r cynllun a'r arddull yn nodweddiadol o waith metel addurnol Eingl-Sacsonaidd yn unol ag arddull 'Trewhiddle', ac mae'n dyddio o'r 9fed ganrif.

Arteffact 14
14

Beth yw hwn?

Darn bach o asgwrn wedi'i naddu (graddfa mewn mm), wedi'i addurnu â thyllau driliedig. Mae gan un twll ddiamedr ychydig yn fwy (?llygad). Mae'r naill ben a'r llall wedi'u torri. Ai tegan yw'r gwrthrych (rhan o anifail) neu rywbeth arall? E-bostiwch eich awgrymiadau.