Amgueddfa Cymru

Siarad â'ch cyfreithiwr

Pan fyddwch wedi cynnwys eich teulu a'ch ffrindiau yn eich Ewyllys, efallai y byddwch am adael gweddill eich ystad, neu ganran ohoni, i Amgueddfa Cymru. Efallai y bydd eich cyfreithiwr yn cael y geiriau canlynol yn ddefnyddiol er mwyn galluogi hyn:

Yr wyf yn rhoi'r canlynol i Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP, Rhif Elusen Gofrestredig 525774, naill ai:
a) cyfran (rhowch fanylion) o weddill fy ystad at ei ddibenion cyffredinol, neu,
b) swm o £......... at ei ddibenion cyffredinol.

Os ydych yn berchen ar eitem sydd o bwys cenedlaethol, efallai y byddwch yn dymuno ei gadael i'r Amgueddfa fel cymynrodd uniongyrchol neu i'r Llywodraeth yn lle treth. Gwiriwch gyda'r Adran Datblygu pan fyddwch yn llunio eich Ewyllys i weld os ydym yn gallu derbyn eich cymynrodd.

Os ydych am gael gwybodaeth bellach am adael rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â Caroline Hurley ar (029) 2057 3482, neu trwy ebost.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.