Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Cefndir - Cyfaill ynteu gelyn?

Viking Warrior

Mae ffynonellau hanesyddol yn sôn am gyfres o ymosodiadau dychrynllyd gan ysbeilwyr o Lychlyn ar arfordir Prydain, Ffrainc ac Iwerddon o ddegawd olaf yr 8fed ganrif ymlaen. Yn wahanol i rannau eraill o Brydain, llwyddodd Cymru i beidio ag ildio tir i'r goresgynwyr hyn. Mae'r cyrch cyntaf ar Gymru yn cael ei gofnodi yn 852 ac mae'r brutiau'n cofnodi cyrchoedd gan Lychlynwyr ar Fôn a Gwynedd o 854 ymlaen. Rydym hyd yn oed yn gwybod enwau rhai o'r Llychlynwyr.

Cafodd arweinwyr y Llychlynwyr Gorm ei ladd gan Rhodri Mawr (arweinydd Gwynedd 944-78) yn 955. Yn 903 ceisiodd Ingimund arwain Llychlynwyr i Ynys Môn ar ôl iddynt gael eu gorfodi i adael Dulyn. Yn ôl croniclau Iwerddon a Chymru, fe orfodwyd y Llychlynwyr adael, a hwylio am Gaer. Bu sawl ymosodiad ar yr ynys yn ystod ail hanner y 10fed ganrif hefyd.

Viking Boat

Bellach mae archeoleg wedi gweddnewid y cofnod hanesyddol unochrog a geir am Lychlynwyr yn achosi terfysg trwy'r wlad. Y Fictoriaid oedd yn gyfrifol am hynny, yn ail-greu darlun rhamantaidd o'r Llychlynwyr. Roedd y Llychlynwyr yn sicr yn elyniaethus a garw ar brydiau, ond gweld eu cyfle a wnaent yn aml. Mewn rhai ardaloedd, ymsefydlodd y Llychlynwyr yn ffermwyr heddychlon, ac mae tystiolaeth archeolegol eu bod yn wladychwyr, masnachwyr a chrefftwyr medrus.

A WYDDOCH CHI?

Mae llawer o enwau lleoedd yn Môn yn arwydd bod y Llychlynwyr yn gyfarwydd â'r ynys. Mae enwau o darddiad Sgandinafaidd ar leoedd ar yr arfordir a oedd yn gymorth wrth fordwyo. Ymhlith yr enghreifftiau y mae 'Anglesey' (Önguls-ey, 'Öynys-nguls'), gan gyfeirio at enw personol un o arweinwyr y Llychlynwyr mae'n debyg; Skerries (Ynysoedd y Moelrhoniaid) - (sker, 'craig anghysbell'), Piscar, Priestholm (Ynys Seiriol) (presta , 'offeiriad' - holmr, 'ynys') ac Osmond's Air ger Biwmares (Asmundr-eyrr, treathell raean ger y môr).