Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English

Proffilau staff

Staff Curadurol

Richard Brewer

Ceidwad Archeoleg a Niwmismateg

Mae Richard wedi bod yn gweithio dros Amgueddfa Cymru ers 1978 ac mae wedi bod yn Geidwad ar yr Adran Archaeoleg a Niwmismateg ers 1996.  Ei brif faes ymchwil yw Archaeoleg Rhufeinig-Brydeinig, gyda gwybodaeth arbenigol am fywyd dinesig Rhufeinig, goresgyniad a meddiannaeth Cymru Rufeinig, cerfluniau Rhufeinig, darganfyddiadau bychain a darnau arian.  Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar mae:

Mae e wedi arwain gwaith cloddio archaeolegol yn nhref Rufeinig Venta Silurum (Caerwent) rhwng 1981–95; o 1984 ymlaen mewn partneriaeth â Chadw: Henebion Cymru: tŷ Rhufeinig (1981–84); teml Rhufeinig-Geltaidd (1984–87); a’r forum–basilica (1987–95) gyda Dr Peter Guest.

Cynrychiolaeth ar gyrff allanol yn cynnwys:

Cafodd Richard secondiad ymchwil gan Amgueddfa Cymru (Hydref 2004–Gorffennaf 2005) i weithio gweithio ar adroddiad ar forum-basilica Caerwent gyda Dr Peter Guest (Prifysgol Caerdydd)

Ffôn: 029 2057 3247
E-bost Richard Brewer

Edward Besly

Ceidwad Cynorthwyol, Niwmismatydd

Mae Edward wedi bod yn aelod o’r Adran ers 1986. Cyn hynny, bu’n gweithio dros Adran Arian a Medalau’r Amgueddfa Brydeinig.  Mae e wedi cyhoeddi gwaith ar geiniogau ac arian o’r Celtiaid i’r 20fed Ganrif, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn:

Mae e wedi cyhoeddi cofnod llawn lluniau o’r gwobrau Dewrder Sifil yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. 

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ddarganfyddiadau arian o nifer o safleoedd yng Nghymru a’r tu hwnt, gan gynnwys casgliad mawr Rhufeinig o ddiwedd y 3edd ganrif a darganfyddiad pwysig o ddiwedd yr 11eg ganrif.  Mae’n rhoi cyfraniad arbenigol at gyhoeddiadau ar gloddfeydd archaeolegol ac at waith y Cynllun Henebion.

Mae Edward yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd ac yn Gymrawd Ymchwil Teithiol, Prifysgol Reading.  Mae’n aelod cyswllt o Sefydliad yr Amgueddfeydd.

Ffôn: 029 2057 3291
E-bost Edward Besly

Dr Mark Redknap

Curadur Archaeoleg Canoloesol a Diweddarach

Gan Mark mae’r cyfrifoldeb o ofalu am gasgliadau canoloesol a diweddarach yr Adran. Ymunodd â’r Adran ym 1988, wedi cwblhau PhD ar grochenwaith Rhufeinig a Chanoloesol yr Eifelgebiet  Almaenig ac ar ôl gweithio fel Curadur Cynorthwyol yn Amgueddfa Passmore Edwards.  Cyfarwyddodd nifer o gloddfeydd ar dir ac o dan dd?r, gan gynnwys Cysegr Sant Columba, Abaty Iona (1976), llongddrylliad o ddechrau’r 16eg ganrif yn Cattewater, Plymouth Sound (1977-8), y crannog lled-suddedig o’r 9fed/dechrau’r 10fed ganrif yn Llyn Syfaddan, Powys (1989-93), a’r pentref o gyfnod y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch, Sir Fôn (1994-2004).

Mae wedi cyhoeddi’n eang, mewn meysydd fel archwiliadau geoffisegol morol, olion ffosiliau Pleistosenaidd, gwydr a phlwm ôl-ganoloesol, crochenwaith Sacsonaidd a Ffrancaidd, gwaith metel eglwysig canoloesol, llongddrylliadau a dwyreinlongau, er mai ei brif ddiddordebau ymchwil yw:

Mae ei waith presennol yn cynnwys:

Cynrychiolaeth ar gyrff allanol yn cynnwys:

Ffôn: 029 2057 3223
E-bost Mark Redknap

Dr Steve Burrow

Cynhanesydd Cynnar

Ymunodd Steve â’r Adran ym 1997 ar ôl cwblhau PhD ar Neolithig  ardal Môr Iwerddon ac ar ôl arwain amrywiaeth o brojectau archwilio a chloddio yn ne Lloegr. Mae’n gofalu am gasgliadau neolithig Amgueddfa Cymru, a datblygu presenoldeb casgliadau archaeoleg a hanes yr Amgueddfa ar-lein.

Mae e wedi cyhoeddi ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â chynhanes Prydain, gan gynnwys:

Mae ei waith digidol yn cynnwys datblygu:

Mae ei ddiddordebau ymchwil cyfoes yn cynnwys:

Mae Steve yn Bartner yn y Sefydliad Amgueddfeydd ac yn Aelod o’r Sefydliad Archaeoleg Maes.

Ffôn : 029 2057 3388
E-bost Steve Burrow

Adam Gwilt

Cynhanesydd Diweddar

Ymunodd Adam â’r Adran ym 1997, ar ôl graddio o Brifysgol Durham ym 1992. Aeth i weithio fel archaeolegydd maes, gwnaeth ymchwil ôl-raddedig ar Brydain yn yr Oes Haearn ac ysgrifennodd adroddiad ar gasgliadau o arteffactau o ogledd a dwyrain Prydain. ym 1997 cyd-olygodd fonograff o 30 o bapurau ymchwil diweddar dan y pennawd Reconstructing Iron Age Societies, gyda’r Athro Colin Haselgrove.

Mae Adam yn gyfrifol am ofalu am gasgliadau’r Oes Efydd ac Oes Haearn, ac adrodd ar drysorau cynhanesyddol Cymru. Mae e wedi cyflwyno a chyhoeddi amrywiaeth o bapurau, wedi trefnu seminarau a chynadleddau ymchwil, ac mae’n gydawdur CD-ROM boblogaidd ar y Celtiaid i blant. Ymhlith ei ddiddordebau mae traddodiadau gwaith metel a serameg yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, arferion claddu cymdeithasol a defodol, y cyfnod rhwng yr Oes Efydd a’r Oes Haearn a chymunedau arbennig yr Oes Haearn yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae e wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu agendâu ymchwil i’r Oes Haearn ym Mhrydain a chynhanes diweddarach yng Nghymru. Mae’n aelod Cyngor o’r Gymdeithas Gynhanesyddol.

Ymhlith ei waith ar hyn o bryd mae:-

Ffôn: 029 2057 3374
E-bost Adam Gwilt

Elizabeth Walker

Rheolwr Casgliadau

Ymunodd Elizabeth â’r Adran ym 1986 ar ôl cwblhau gradd mewn archaeoleg ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Fel Rheolwr Casgliadau, Elizabeth sy’n gyfrifol am yr ymwelwyr sy’n defnyddio’r casgliadau, ac am reoli rhaglen gofal a dogfennu ymchwil archaeolegol a chasgliadau astudiaeth yr Adran. Hi hefyd sy’n gweinyddu holl geisiadau benthyg yr adran.

Mae Elizabeth yw'r curadur sy'n gyfrifol am y cyfnodau Paleolithig a Mesolithig hefyd, ac mae'n arbenigo ym maes dadansoddi arteffactau lithig. Mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o gloddfeydd yr Amgueddfa mewn ogofâu yng Nghymru ac wedi cyflawni ei harchwiliad ei hun o safle Mesolithig yn Burry Holms, Llangynydd, Penrhyn G#373;yr ac mae hi’n paratoi’r canlyniadau i’w cyhoeddi ar hyn o bryd. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o bapurau ar archaeoleg Mesolithig Cymru ac ar hanes casgliadau lithig yn yr Amgueddfa.  Yn ddiweddar, cyd-olygodd y llyfr Lithics in Action gyda Francis Wenban-Smith a Frances Healy ar gyfer y Gymdeithas Astudiaethau Lithig ac Oxbow Books.

Prif feysydd ymchwil Elizabeth ar hyn o bryd yw:

Ffôn: 029 2057 3274
E-bost Elizabeth Walker

Evan Chapman

Swyddog Curadurol

Un o raddedigion Prifysgol Cymru, Caerdydd, mae wedi bod yn gweithio yn yr Adran ers 1990.  Mae’n arbenigo yn y cyfnod Rhufeinig, ond mae ganddo ddiddordeb yng nghyfnodau diweddarach hanes ac archaeoleg Prydain.  Ei brif ddiddordebau ymchwil yw’r fyddin Rufeinig a darganfyddiadau Rhufeinig bychain, yn arbennig tlysau.  Yn ddiweddar cwblhaodd MPhil mewn catalogio offer milwrol Rhufeinig yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac ar hyn o bryd mae’n cofnodi manylion y darganfyddiadau bychan o gloddfa Basilica Caerwent.

Prif waith Evan yw delio â gofal casgliadau astudio’r Adran o ddydd i ddydd, ond mae hefyd yn ymwneud ag arddangosfeydd ac yn helpu gyda chloddfeydd adrannol.

Ffôn: 029 2057 3238
E-bost Evan Chapman

Jody Deacon

Cynorthwy-ydd Curadurol 

Graddiodd Jody o Brifysgol Caerdydd yn 2000 gyda BSc mewn Archaeoleg ac ymunodd â’r adran yn 2002. Mae’n gweithio’n bennaf ar gasgliadau'r Oes Efydd a’r Oes Haearn ond mae hefyd yn helpu gydag arddangosfeydd a chloddfeydd adrannol.

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil mewn crochenwaith cyn-hanesyddol. Mae hi wrthi’n gweithio ar asesiad cyntaf o grochenwaith o’r Oes Efydd Diweddar o Lanmaes ac arolwg (gyda Mary Davis) o lenwadau a thaeniadau crochenwaith yr Oes Efydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Ffôn: 029 2057 3238
E-bost Jody Deacon

STAFF DARLUNIO

Tony Daly

Darluniwr

Yn aelod o’r Adran ers 1988, cyn dod i’r Amgueddfa, bu Tony’n gweithio dros Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg a Gwent.

Mae ei waith yn cynhyrchu darluniau (arteffactau, darluniau dehongliad, ail-greadau, cynlluniau safle, mapiau lleoliadau) a graffeg i’w defnyddio mewn cyhoeddiadau ac arddangosfeydd yn y dyfodol, yn adlewyrchu amrywiaeth eang casgliadau archaeolegol yr Amgueddfa.

Mae Tony’n gwneud cyfraniad mawr at ddarlunio’r gwrthrychau a gofrestrir dan Gynllun Henebion Cludadwy Cymru.

Ffôn: 029 2057 3227
E-bost Tony Daly

Jackie Chadwick

Darlunydd

Ar ôl cwblhau gradd mewn Celf Weledol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, aeth Jackie i weithio dan gontract, fel darlunydd gyda’r Uned Archaeoleg Maes yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Ym 1990, ymunodd Jackie â’r Adran yng Nghaerdydd. Wrth arbenigo mewn arteffactau lithig mae ei gwaith yn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o ddeunydd o bob oed yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae’r mwyafrif o’i darluniau ar gyfer cyhoeddiadau, ac felly maent yn cynnwys darluniau dehongliadol, ail-greadau, cynlluniau safle a mapiau lleoliad.  Mae’n darlunio arteffactau hefyd fel cofnod hefyd, gan gynnwys nifer o ddarganfyddiadau a gofnodwyd gan aelodau o’r cyhoedd drwy Gynllun Henebion Cludadwy Cymru.  Mae’n cynhyrchu gwaith graffeg ar gyfer arddangosfeydd hefyd. 

Ffôn: 029 2057 3227
E-bost Jackie Chadwick

STAFF CADWRAETH

Mary Davis

Cadwraethydd Archaeolegol

Cafodd Mary Ddiploma ôl-raddedig mewn Cadwraeth Archaeolegol o Brifysgol Durham cyn gweithio fel cadwraethydd yn Amgueddfa Castell Norwich ac yna yn Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Ymunodd â’r Adran ym 1997 ac mae’n gweithio ar y projectau cadwraeth a gwyddoniaeth archaeolegol; ei phrif ddiddordebau yw:

Mae ei phrojectau cyfoes yn cynnwys:

Ffôn: 029 2057 3228
E-bost Mary Davis

Miss Penny Hill

Cadwraethydd Archaeolegol

Ymunodd Penny â’r Adran ym 1992 ar ôl gweithio am gyfnod yn yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain.  Mae ei chymwysterau’n cynnwys:

Ymhlith ei phrif feysydd diddordeb mae astudio pigmentau a chadwraeth arteffactau metel. Ar hyn o bryd mae Penny’n ymchwilio i effeithiolrwydd triniaethau’r gorffennol o haearn archaeolegol; mae hefyd yn ymwneud â dadansoddi a chadwraeth plaster wal Rhufeinig wedi ei beintio yn y casgliad.  Bydd ei phroject nesaf yn cynnwys astudio’r plaster wal canoloesol o Eglwys Sant Teilo, sy’n cael ei hail-adeiladu yn yr Amgueddfa Werin. Caiff canlyniadau’r dadansoddiad eu defnyddio i ail-greu waliau mewnol yr eglwys.

Mae ei diddordebau eraill yn cynnwys astudiaeth technoleg hynafol; mae hyn wedi arwain at ail-greu gwaith mewn ffresgo a hefyd yng nghyfrwng hynafol y llosgliw.

Ffôn: 029 2057 3228
E-bost Penny Hill

Louise Mumford

Cadwraethydd Archaeolegol

Ymunodd Louise â’r Adran ym 1980 ar ôl cwblhau BSc. (Anrhydedd) mewn Cadwraeth Archaeolegol yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Ers cwblhau gwaith cadwraeth defnydd llawn dŵr o gloddfa Crannog Llyn Syfaddan o’r 10fed ganrif yn ddiweddar, mae hi wedi bod wrthi’n cofnodi canlyniadau’r cynllun i’w gyhoeddi ac yn gwneud gwaith arbrofol ar dechnoleg y defnydd. Mae hi wedi bod yn ymwneud â’r gwaith i ail-greu Cwch Caer Magwyr hefyd.

Er bod cadwraethwyr yr Adran yn ymwneud â phob agwedd o gadwraeth archaeolegol, mae diddordebau arbennig Louise yn cynnwys:

Cyhoeddodd Louise “Edge-trimmings on the Llangorse Textile” yn L-M BRIC News Rhif. 7 (Cylchlythyr Blynyddol Canolfan Ymchwil Loop-Manipulated Braiding, cyhoeddwyd ar y Rhyngrwyd ar <www.lmbric.org>)

Ffôn: 029 2057 3228
E-bost Louise Mumford

STAFF Y CYNLLUN HENEBION CLUDADWY

Mark Lodwick

Cydlynydd Henebion Cludadwy Cymru

Daeth Mark i ymwneud â’r Amgueddfa yn y lle cyntaf drwy helpu gyda gwahanol brojectau gwaith maes ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ym 1992. O 1995 ymlaen canolbwyntiodd ei waith maes ar gasgliadau astudio ac ymchwil Neolithig, yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, gyda diddordeb mewn dyddodi gwaith metel yr Oes Efydd. Cymerodd Mark swydd Cydlynydd Henebion Cludadwy Cymru yng Ngorffennaf 2002 gyda chyfrifoldeb dros gofnodi gwrthrychau o bwys archaeolegol a ganfuwyd gan y cyhoedd.

Ffôn: 029 2057 3226
E-bost Mark Lodwick

CYMORTH GWEINYDDOL

Shanon Deal

Swyddog Gweinyddol

Cwblhaodd Shanon radd BSc (Anrhydedd) mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Bournemouth ym 1999 ac ymunodd â’r Adran yn 2000.  Cyn hynny bu’n gweithio ar amrywiaeth o brojectau archwilio maes, geoffisegol a chloddfeydd yng Nghymru, Lloegr ac Ynys Manaw.

Mae Shanon yn gyfrifol am fonitro ymrwymiadau ariannol yr adran a’i dangosyddion perfformiad, yn ogystal â chynnal y setiau data digidol ar gyfer System Wybodaeth Daearyddol Amgueddfa Cymru a chynrychioli’r Amgueddfa mewn cyfarfodydd Grŵp Cydlynu Rhyng-Lywodraethol Arolwg Ordnans (Cymru).

Mae’n cynnal ei diddordeb mewn materion archaeolegol o fewn yr adran a hi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nifer o ymholiadau gan y cyhoedd.