Tre'r Ceiri

Tre'r Ceiri
  • Mae Tre'r Ceiri 450 metr uwch lefel y môr ar un o gopaon noeth yr Eifl ym Mhen Llŷn, Gwynedd.
  • Mae'n un o'r bryngaerau sydd wedi cadw orau ym Mhrydain ac yn un o'r rhai dwysaf ei phoblogaeth. Mae'r rhagfuriau cerrig bron mor uchel ag y buont erioed mewn rhai mannau ac maent yn amg?u dros 150 o dai cerrig sy'n dal i'w gweld.
  • Yn ystod gwaith archwilio cynnar ym 1904 a 1906, cliriwyd y tu mewn i lawer o'r tai a darganfuwyd nifer o bethau pwysig. Yna, yn y 1950au, gwnaed gwaith arolygu a chloddio sydd wedi ein helpu i ddeall amddiffynfeydd ac arddull adeiladu'r tai.
  • Roedd wal gerrig o gwmpas y gaer gyntaf a oedd ar ddarn hir o dir ar ben y gefnen. Roedd carnedd o'r Oes Efydd Gynnar y tu mewn i'r wal ac fe wnaed gwaith cloddio arni yn ddiweddar. Roedd dwy brif fynedfa i'r gaer, a lôn yn arwain at y naill a'r llall. Yn ddiweddarach, codwyd ail wal allanol o gwmpas rhannau gorllewinol a gogleddol y gaer.
  • Ceir llociau bach hirgrwn, terasog o gwmpas y gaer. Credir iddynt gael eu defnyddio fel llociau anifeiliaid a lleiniau amaethu. Mae'n debygol mai o darddell yn union y tu allan i'r gaer y câi'r bobl a'r anifeiliaid eu dŵr.
  • Ymddengys bod gwahanol fathau o dai wedi'u codi yma yn y gwahanol gyfnodau: tai crynion o gerrig oedd y tai cynharaf ac roedd y rhai diweddaraf bron ar ffurf betryal. Rhwng y ddau gyfnod, roedd tai crynion yn cael eu rhannu'n ddwy neu dair ystafell gan waliau cerrig.
  • Mae'n debyg bod 100 o bobl yn byw mewn rhyw 20 o dai yn y gaer yn yr Oes Haearn. Yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig, tyfodd y gaer yn bentref mawr neu'n dref fach gyda chynifer â 400 o drigolion o bosib.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r darganfyddiadau o'r fryngaer hon, yn cynnwys crochenwaith, offer haearn, sidelli cerrig a gleiniau gwydr, yn perthyn i'r cyfnod Brythonig-Rufeinig (OC50-400). Mae hyn yn dangos bod Tre'r Ceiri yn dal yn anheddiad tra oedd y fyddin Rufeinig wedi meddiannu gogledd orllewin Cymru.
  • Darganfuwyd tlws goreurog cain ac unigryw yn un o'r tai. Mae'r gwaith addurnol cywrain arno yn perthyn i arddull celfyddyd La Tène ddiweddar ac mae'n debygol ei fod wedi'i wneud tua chanol y ganrif gyntaf Oed Crist. Mae'r tlws i'w weld yn Oriel Archaeoleg Rufeinig yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.