Bryngaer Pen Dinas

Bryngaer Pen Dinas
  • Mae bryngaer Pen Dinas yn edrych i lawr dros y môr o gefnen o dir uchel rhwng afonydd Rheidol ac Ystwyth, ac uwchlaw tref Aberystwyth yng Ngheredigion.
  • Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf a phwysicaf yng Ngorllewin Cymru. Amgaewyd 3.8 hectar o dir gan wrthglawdd enfawr ac amddiffynfeydd ffosog.
  • Bu gwaith cloddio a wnaed ar y safle rhwng 1933-37 o gymorth i ni ddeall y fryngaer gymhleth hon. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn byw ynddi yn awr ac yn y man yn yr Oes Haearn.
  • Roedd caer gynnar, yn mesur 1.6 hectar, ar y bryncyn gogleddol ac roedd rhagfur pridd wedi'i atgyfnerthu â choed yn ei hamddiffyn. Cafodd y gaer hon ei disodli gan gaer arall tua'r un maint ar ail fryncyn i gyfeiriad y de. Roedd gwrthglawdd hon wedi'i atgyfnerthu â cherrig. Yn olaf, adeiladwyd amddiffynfeydd o amgylch y gefnen gyfan gan gynnwys y ddwy gaer gyntaf.
  • Dangosodd y gwaith cloddio y mynedfeydd a ail-luniwyd mewn tri cyfnod o greu amddiffynfeydd y gaer. Ger un fynedfa, gwelir adeiladwaith mawr petryal ag iddo bedwar postyn. Efallai mai gwarchodfa neu storfa rawn oedd hwn.
  • Yn y gaer ddeheuol, gwelir olion 12 o lwyfannau tai, sydd i'w gweld fel pantiau ar wyneb y tir. Mae'r rhain yn dangos fod pobl wedi bod yn byw yn y gaer. Gwnaed gwaith cloddio ar ddau o'r rhain a'r awgrym yw mai tai ar ffurf D oedd y rhain yn hytrach na thai crwn.
  • Darganfuwyd teilchion jar addurnedig, gyda phatrymau siâp coma wedi'u stampio o dan yr ymyl. Mae hyn yn ddiddorol iawn. Gwnaed y jar yn ardal Bryniau Malvern yn Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon rywbryd rhwng 300-50CC. Gwyddom o ble mae'n dod gan fod darnau bach o graig sy'n unigryw i'r ardal hon yn y clai.
  • Darganfyddiad arall oedd glain bach gwydr a oedd yn cael ei wisgo gan rywun yn y gaer fel addurn. Mae'n debyg iawn i'r gleiniau a wnaed ym mhentref Meare Lake yng Ngwlad yr Haf ac mae'n dystiolaeth bellach bod cysylltiadau gan y gaer ag ardaloedd pellennig.
  • Mae'r rhan fwyaf o aneddiadau'r Oes Haearn yn ardal Pen Dinas yn llai o lawer ac wedi'u hamg?u gan ffosydd a chloddiau unigol. Efallai bod Pen Dinas yn ganolfan fasnachu bwysig neu'n gartref i bennaeth llwyth lleol. Gwaetha'r modd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ar hyn o bryd i fod yn hyderus am union gymeriad y safle na'r defnydd a wnaed ohono.