Bryngaerau Cymru

Bryngaer Pen Dinas
Bryngaer y Bwlwarcau
Tre'r Ceiri
  • Safleoedd amgaeëdig amddiffynedig a adeiladwyd o bridd, pren neu gerrig yw bryngaerau ac maent yn aml ar ben bryniau y gellir eu hamddiffyn. Cawsant eu hadeiladu o'r Oes Efydd Ddiweddar, trwy'r Oes Haearn (1100CC-OC50) ac roedd rhai ohonynt yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod Brythonig- Rufeinig. Maent yn amgáu rhwng 0.1 a 80 hectar o dir, er yng Nghymru mae'r mwyafrif o dan 2 hectar.
  • Fel rheol mae amddiffynfeydd bryngaerau'n cynnwys clawdd (rhagfur) wedi'i wneud o ddefnydd a gloddiwyd o ffos allanol. Roedd gan rai bryngaerau amddiffynfeydd ychwanegol e.e. mynedfeydd atgyfnerthedig, yn cynnwys giatiau cedyrn.
  • Ychydig o waith cloddio archaeolegol manwl a wnaed mewn bryngaerau yn ddiweddar. Fodd bynnag, dengys y dystiolaeth bod adeiladau coed neu gerrig ynddynt, yn eu plith dai crynion a phetryal, storfeydd grawn, tyrau gwylio a chysegrau. Darganfuwyd rhai pyllau neu sestonau dŵr, a mannau i fwyndoddi haearn neu efydd hefyd.
  • Mae dros 1000 o fannau y gellid eu galw'n fryngaerau o'r Oes Haearn yng Nghymru, er bod llawer o'r rhai llai eu maint yn debycach i ffermydd amddiffynedig. Mae rhai o'r cloddiau i'w gweld ar y ddaear ond mae'n rhaid mynd i'r awyr i weld olion rhai eraill yn y caeau. Ceir nifer o fryngaerau mawr ar y gororau ond ychydig sydd ym mynyddoedd y canolbarth. Yn y gorllewin, ceir llawer o fryngaerau bach neu ffermydd amddiffynedig. Yn y gogledd orllewin, cerrig oedd y defnydd adeiladu mwyaf cyffredin. Yma, mae'r rhagfuriau wedi para'n dda.
  • Mae bryngaerau Cymru'n amrywiol iawn eu ffurf a'u lleoliad, yn ogystal â'u maint. Mae caerau pentir yn dibynnu ar amddiffynfeydd naturiol o'u hamgylch. Mewn ardaloedd mewndirol ceir nifer ar esgeiriau serth, ond ar yr arfordir roeddent yn aml ar glogwyni. Mae rhai bryngaerau ar lethrau bryniau ac mae'n amlwg nad oedd rheiny'n hawdd eu hamddiffyn.
  • Beth oedd swyddogaeth bryngaerau yng nghymdeithasau'r Oes Haearn? Mae'n naturiol tybio mai diben amddiffynnol oedd i'r gaer, i warchod y bobl rhag ymosodiadau yn ystod cyrchoedd a brwydrau.
  • Mae rhai wedi dadlau bod penaethiaid, eu gosgordd a chrefftwyr yn byw mewn bryngaerau yn barhaol. Nhw oedd hwyrach yn rheoli'r bwydydd ac ati oedd dros ben gan y cymunedau yr oeddent yn llywodraethu drostynt. Dadl eraill yw mai cartref dros dro oedd y bryngaerau i gymunedau yn ystod cyfnodau o wrthdaro ac y byddai pobl yn dychwelyd i'w ffermydd yn yr ardal pan fyddai'n ddiogel iddynt wneud hynny.
  • Yn fwy diweddar, mae nifer o archaeolegwyr wedi pwysleisio bod nodweddion y bryngaerau'n amrywiol iawn. Dadleuant fod iddynt nifer o wahanol swyddogaethau, nid swyddogaeth amddiffynnol yn unig. Mae llawer o fryngaerau mewn mannau a oedd yn anodd eu hamddiffyn ac ymddengys nad oedd pobl yn byw'n barhaol ynddynt nac ychwaith y bu llawer o bobl yn byw ynddynt ar yr un pryd. Yn hytrach, efallai eu bod yn llefydd i gadw anifeiliaid, yn fannau i gynnal ffeiriau amaethyddol ac yn ganolfannau crefyddol i'w defnyddio ar rai adegau o'r flwyddyn. Efallai bod eu swyddogaeth fel arwydd o statws a grym gwahanol grwpiau cymunedol mor bwysig â'u diben amddiffynnol. Dylid ystyried llawer o fryngaerau Cymru fel ffermydd unigol lle'r oedd grwpiau bychain o deuluoedd yn byw.