Amgueddfa Cymru

Cadwyn Haearn

[delwedd: Cadwyn Haearn]

  • Ceir pum set o hualau gwddf yn y gadwyn haearn hon, wedi'u cysylltu â'i gilydd â chyfres o ddolenni siâp 'ffigwr wyth'.
  • Efallai bod y gadwyn wedi'i defnyddio ar gyfer caethweision, troseddwyr neu aberthau yn ystod yr Oes Haearn Ddiweddar neu gyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid (100CC-OC78).
  • Roedd y gadwyn yn un o bâr a ganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach. Roedd yn dal mor gryf nes bod adeiladwyr y maes awyr wedi'i defnyddio i dynnu cerbydau o dir corsiog yn y 1940au.
  • Dyma'r unig gadwyni i gael eu canfod yng Nghymru. Hyd yma, yn ne ddwyrain Lloegr mae bron bob un o'r enghreifftiau eraill wedi'u canfod. Mae hyn yn awgrymu efallai mai yno yr oedd y fasnach gaethweision ar ei chryfaf yn ystod yr Oes Haearn Ddiweddar. Yn ôl yr awdur clasurol Strabo, roedd caethweision yn cael eu hallforio o Brydain i'r byd Rhufeinig yn y ganrif gyntaf Cyn Crist.
  • A allai fod cysylltiad rhwng y darganfyddiad hwn yn Llyn Cerrig Bach a natur grefyddol yr ardal? Wrth drafod y Celtiaid yng Ngâl, dywed Iŵl Cesar eu bod yn crynhoi troff?au i'w haberthu mewn mannau crefyddol ar ôl ennill brwydrau. A allai'r cadwyni hyn fod wedi'u cymryd oddi ar y Rhufeiniaid ar ôl brwydr ar y tir mawr?
  • Mae'r gadwyn yn mesur 3.0m o hyd, ac mae 0.60m rhwng pob un o'r hualau gwddf. Mae'n drwm iawn ac mae'n pwyso mwy na chwech llond bag o siwgr (6660g).