Amgueddfa Cymru

Gwrthrychau o Lyn Cerrig Bach

[delwedd: Cleddyf Haearn]

[delwedd: Plac Efydd]

[delwedd: Gefel Gof]

[delwedd: Teiar Cerbyd]

[delwedd: Cryman]

[delwedd: Cadwyn Haearn]

  • Ceir dros gant a hanner o bethau efydd a haearn yng nghelc Llyn Cerrig Bach. Daethpwyd o hyd iddynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd maes awyr yr Awyrlu'n cael ei ddatblygu yn y Fali, Ynys Môn. Gweithwyr a ddaeth o hyd iddynt wrth gloddio mawn o dir a fu gynt ar lan llyn.
  • Mae'r casgliad yn cynnwys saith cleddyf, chwe phen picell, darnau o darian, darn o drwmped efydd, dwy gadwyn, darnau o deiars wagen haearn a rhannau o harnais ceffyl. Yn ogystal, darganfuwyd offer gof, darnau o ddau bair, barrau haearn ar gyfer masnachu ac esgyrn anifeiliaid.
  • Mae maint ac amrywiaeth casgliad Llyn Cerrig Bach yn bwysig iawn i'n dealltwriaeth ni o arfau, gwaith metel ac offer yr Oes Haearn a datblygiad arddulliau celfyddydol. Gellir cymharu'r casgliad hwn â'r casgliad enwog o waith metel a ganfuwyd yn La Tne ar lan Llyn Neuchâtel yn y Swistir.
  • Credir mai offrwm i'r duwiau neu'r duwiesau oedd y casgliad o bethau metel gwerthfawr. Mae celcoffrymau fel hyn yn rhan o draddodiad hir yn yr Oes Efydd a'r Oes Haearn yng Nghymru.
  • Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus, Mona (Ynys Môn) oedd canolfan ddysg y Derwyddon adeg y Goncwest Rufeinig (tuag OC60). Dywedir mai arweinwyr crefyddol oedd y Derwyddon, dosbarth offeiriadol Oes Haearn y Celtiaid. Dywed Tacitus wrthym bod eu cell•oedd cysegredig wedi'u dinistrio yn ystod y Goncwest:

    Bryd hynny, fodd bynnag, Paulinus Suetonius oedd wrth y llyw ym Mhrydain. O ran gwyddor filwrol ac yn sgyrsiau pobl, lle na chaniateir i neb fod heb genfigen, roedd cystal â Corbulo, ac roedd yn awyddus i wneud cymaint â sicrhau adferiad gwych Armenia trwy ddarostwng gelynion y wladwriaeth. Am y rheswm hwnnw, fe baratôdd i ymosod ar ynys Mona [Môn] lle'r oedd poblogaeth fawr a lle'r oedd ffoaduriaid yn cael lloches. Adeiladwyd cychod bonfflat i ymdopi â'r dŵr bas a'r gwaelod symudol a dyna sut y croesodd y milwyr traed. Yna, dilynodd y gwßr meirch, gan ddefnyddio rhydau neu nofio ochr yn ochr â'u ceffylau lle'r oedd y dŵr yn ddyfnach.

    Ar y lan, safai'r gelyn mewn rhengoedd agos o ddynion arfog gyda merched yn eu canol wedi'u gwisgo fel yr Ellyllesau mewn du angladdol, eu gwallt yn cyhwfan ac yn dal ffaglau. O'u cwmpas roedd y Derwyddon, â'u dwylo tua'r nef, yn chwythu melltithion enbyd. Roedd y milwyr Rhufeinig mor syfrdan pan welsant yr olygfa ryfedd hon nes iddynt sefyll yn stond fel pe bai eu coesau wedi'u parlysu ac felly roeddent yn agored i gael eu hanafu. Yna, a hwythau wedi'u calonogi gan anogaeth eu cadlywydd a chan gymell ei gilydd i beidio â bod ofn y dyrfa hon o fenywod penboeth, aethant ymlaen â'u baneri, gan gymynu pawb y daethant ar eu traws, gan eu llosgi â fflamau eu ffaglau eu hunain. Ar ôl hynny, gosodwyd garsiwn ar y brodorion a goncwerwyd ac fe dorrwyd y gwigfaoedd lle cynhaliwyd eu defodau anwar; oherwydd roedd yn rhan o'u crefydd i drochi eu hallorau â gwaed carcharorion ac i ymgynghori â'u duwiau gan ddefnyddio perfeddion pobl.

    Tacitus Annals XIV, 29-30

  • A allai Llyn Cerrig Bach fod yn ganolbwynt pwysig i ddefodau Derwyddol? Mae presenoldeb gwrthrychau fel trwmped, cadwyni a chymaint o offer milwrol yn awgrymu nad arwyddocâd lleol yn unig sydd i'r safle hwn. Mae'r ffaith bod yno gymaint o arfau'n awgrymu eu bod wedi'u hoffrymu naill ai cyn neu ar ôl brwydr.
  • Yn ddiweddar, ailaseswyd y safle. Gwnaed gwaith maes yno, tynnwyd darluniau newydd, astudiwyd y gwrthrychau a gwnaed profion cemegol ar y gwaith metel. Erbyn hyn, ymddengys yn fwy tebygol mai safle crefyddol oedd hwn lle gosodwyd sawl celc bach, yn y cyfnod 300CC-OC100, yn hytrach nag un mawr.