Gleiniau Gwydr

[delwedd: Gleiniau Gwydr]

  • Darganfuwyd y grŵp hwn o bum glain gwydr bach yn ystod gwaith cloddio archaeolegol yn y 1960au a dechrau'r 1970au ar fryngaer o'r Oes Haearn o'r enw Twyn-y-Gaer, ger y Fenni, Sir Fynwy. Daethpwyd o hyd i'r glain melyn mwyaf ar hap yng Nglanbidno Uchaf, ger Llangurig, Powys.
  • Mae'r gleiniau gwydr o Dwyn-y-Gaer yn dyddio o gyfnod rhwng y bedwaredd ganrif a'r ganrif gyntaf Cyn Crist. Mae dadansoddiad cemegol yn awgrymu eu bod wedi'u gwneud mewn gweithdai gwneud gwydr ar safle pentref Meare Lake yng Ngwlad yr Haf. Cr?wyd y lliw melyn anhryloyw yn rhai o leiniau Twyn-y-Gaer pan gymysgwyd ocsidau'r metalau antimoni, plwm a haearn i'r gwydr. Gwnaed y gleiniau hyn i faint safonol trwy ddirwyn ffyn o wydr tawdd o gwmpas ffon haearn. Mae'n bosib bod eraill wedi'u gwneud mewn mowldiau clai.
  • Credir bod glain Glanbidno Uchaf wedi'i fewnforio o'r Cyfandir yn ystod yr Oes Haearn Ddiweddar (tua 200CC-OC0). Mae'r gwydr wedi'i liwio â glas cobalt ac fe grëwyd y troellau trwy dynnu ffyn main o wydr tawdd gwyn ar hyd wyneb y glain.
  • Roedd gwydr yn beth newydd, gwerthfawr ar y pryd. Ym Mhrydain, câi ei ddefnyddio'n bennaf i wneud addurniadau personol yn hytrach na ffenestri a llestri yfed. Cafwyd hyd i leiniau wedi'u claddu gyda menywod o'r Oes Haearn ym Mhrydain - efallai eu bod wedi eu defnyddio fel gleindorch (mwclis) neu grogaddurn.
  • Canfuwyd gleiniau gwydr glas a melyn a wnaed yn Meare ar safleoedd o'r Oes Haearn yn ne Cymru. Mae dosbarthiad y gleiniau hyn yn dangos patrwm cysylltiadau cymdeithasol a masnachol rhwng y bobl ar y naill ochr a'r llall i Fôr Hafren.
  • Mae'r glain melyn mwyaf tua'r un faint â Malteser, ac mae'r gleiniau lleiaf tua'r un faint â Tic-tacs.