Plac Tal-y-Llyn

  • Darganfuwyd y plac ym 1963 ar lethrau Cader Idris ger Tal-y-llyn, Gwynedd gan bobl oedd yn cael picnic. Roedd y plac yn rhan o gelc o bethau metel a oedd wedi'u bwndelu'n dynn wrth ei gilydd a'u rhoi o dan garreg fawr.
  • Yn ogystal, roedd y celc yn cynnwys darnau o ddwy darian, platiau wedi'u haddurno y credir efallai eu bod yn dod o drol seremon?ol, a rhan o glo Rhufeinig.
  • Siâp trapesoid sydd i'r plac hwn ac mae'n un o bâr. Pâr o wynebau pobl, sy'n rhannu'r un gwddf, sy'n eu haddurno. Mae'r llygaid yn syllu ac mae'r gwallt wedi'i gribo'n drylwyr. Mae ansawdd y ddelwedd yn drawiadol iawn. Roedd y pen yn bwysig iawn i'r Celtiaid. Ai llun o dduw neu dduwies sydd ar blaciau Tal-y-llyn?
  • Efallai mai celc o fetel sgrap oedd hwn, neu gelc-offrwm neu efallai bod pobl yr Oes Haearn wedi'i guddio pan glywsant fod byddin Rufeinig ar y ffordd.
  • Gwnaed y plac o bres, aloi o gopr a sinc. Technoleg y Rhufeiniaid oedd cynhyrchu pres. Daeth gwrthrychau pres i Brydain cyn goresgyniad y Rhufeiniaid ac fe ellid ailffurfio'r rhain i wneud gwrthrychau yn arddull yr Oes Haearn.
  • Mae'r plac tua'r un hyd â phensil ac mae'n fregus iawn.