Pair Llyn Fawr

  • Daethpwyd o hyd i'r pair hwn ym 1913 wedi'i gladdu mewn mawn yng ngwaelod Llyn Fawr, Rhigos, Rhondda Cynon Taf.
  • Darganfuwyd ef gan weithwyr pan oedd y llyn wedi'i ddraenio er mwyn tynnu mawn ohono i'w ddyfnhau a'i ddefnyddio fel cronfa ddŵr.
  • Mae celc Llyn Fawr yn cynnwys nifer o geingiau, crymanau a bwyeill socedog, cleddyf, pen picell, rasel a darnau o harnais ceffyl. Maent oll yn dyddio i ddechrau'r Oes Haearn (c.750-600CC).
  • Roedd peiriau'n cael eu defnyddio i goginio bwyd, yn enwedig ar gyfer gwleddoedd. Roeddent hefyd yn cael eu cyfrif yn bethau seremon?ol ag iddynt bwerau adfywio a ffrwythloni.
  • Gwnaed y pair hwn o efydd, wedi'i forthwylio'n bedair dalen wastad ac mae iddo waelod crwn. Defnyddir rhybedion efydd boglymog i gysylltu'r darnau, a phâr o ddolenni crynion i'w ddal pan oedd yn crogi.
  • Roedd y pethau hyn yn gyfan pan claddwyd nhw ac roedd llawer ohonynt o'r ansawdd uchaf. Roedd rhai ohonynt yn dod yn wreiddiol o rannau eraill o Brydain a'r Cyfandir. Tybed ai rhodd i dduwiau'r byd 'arall' oeddent? Efallai bod y bobl yn credu bod dyfroedd adlewyrchol y llyn yn ffin rhwng dau fyd.
  • Mae celc Llyn Fawr yn eithriadol o bwysig gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Mae'n anghyffredin oherwydd arddulliau amrywiol y gwrthrychau sy'n awgrymu eu bod yn dod o wahanol fannau. Yn wir, ar y raddfa Brydeinig, rhoddir yr enw Llyn Fawr i gyfnod o amser rhwng 750-600CC.
  • Yn y celc hwn y mae rhai o'r gwrthrychau haearn cynharaf a wnaed ym Mhrydain, fel cryman a chleddyf. Ni wyddom lle roedd yr haearn yn cael ei gloddio na'i fwyndoddi. Mae'n bosib eu bod yn defnyddio mwyn lleol.
  • Mae pair Llyn Fawr mor fawr fel na allwch roi'ch breichiau o'i gwmpas. Mae'n 352mm o uchder ac mae'r metel yn 1-2mm o drwch. Mae'n pwyso 7580g.