Drych Efydd

Drych Efydd
  • Daethpwyd o hyd i'r drych hwn tua 1860 ym Mhont Fadog, ger fferm Llechwedd-du Bach ger Harlech, Gwynedd. Roedd dysgl efydd-dun gyda'r drych pan ganfuwyd ef.
  • Roedd drychau efydd yn eitemau personol a gyfrifid yn werthfawr yn ystod yr Oes Haearn Ddiweddar (50CC-OC50). Cafwyd hyd i rai wedi'u claddu gyda merched o statws uchel yn ne Prydain.
  • Pan ganfuwyd ef, ni chofnodwyd bod sgerbwd gerllaw ac ni wyddom ai ym medd menyw y daethpwyd o hyd i ddarganfyddiadau Llechwedd-du.
  • Mae'n debygol bod arwyddocâd symbolaidd a defodol i ddrychau. Efallai bod pobl o'r farn bod yr adlewyrchiad yn y metel gloyw yn ddolen gyswllt â'r 'byd Arall'.
  • Yn aml, roedd cefnau'r drychau hyn yn cael eu hysgythru â phatrymau hardd. Ar ddrychau y mae rhai o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o gelfyddyd La Tène Ddiweddar a elwid weithiau'n 'arddull drychau'. Defnyddid cwmpas i greu amlinellau'r patrwm ac roedd rhai o'r mannau gwag yn cael eu pwysleisio trwy ddefnyddio patrwm llinellau croes.
  • Er nad yw drych Llechwedd-du wedi'i addurno, mae cynllun y carn yn golygu y gellir ei gymharu ag enghreifftiau yr ydym yn weddol sicr o'u dyddiad yn yr Oes Haearn Ddiweddar. Ond mae'r ffaith ei fod wedi'i ganfod gyda dysgl Rufeinig yn awgrymu bod y ddau beth wedi'u claddu yn ystod y degawdau cyntaf ar ôl i'r Rhufeiniaid oresgyn Cymru (OC30-75).
  • Mae'r drych yn debyg i ddrych llaw modern. Yn y lle lletaf, mae plât y drych yn mesur 206mm ar draws ac mae'r hyd yn y man hwyaf yn 296mm. Mae'r carn yn 100mm o hyd ac mae'r drych yn pwyso 419.4g.