Dysgl yr Wyddfa

  • Darganfuwyd dysgl yr Wyddfa ar hap ym 1974, gan ddau fyfyriwr ymchwil a oedd yn astudio bywydeg planhigion ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
  • Daethpwyd o hyd i'r darn hwn o ddysgl efydd ar lethr sgri islaw Craig Cwm Beudy Mawr, ar ochr ogledd ddwyreiniol yr Wyddfa. Mae'n bosib ei bod wedi'i chladdu yn uwch i fyny'r mynydd yn wreiddiol.
  • Mae'n debygol mai offrwm crefyddol oedd y ddysgl yn hytrach na'i bod wedi'i cholli ar ddamwain. Gan ei bod o statws mor uchel, efallai ei bod yn rhodd i un o'r duwiau neu dduwiesau.
  • Mae'n anodd dehongli i beth y defnyddid y ddysgl hon yn wreiddiol. Awgryma dysglau eraill o Brydain, eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer yfed gwin neu olchi dwylo yn ystod gwleddoedd ac fel rhan o seremon?au crefyddol.
  • O'i chymharu â dysglau efydd o gladdfeydd corfflosgiadau yn ne ddwyrain Lloegr, awgrymir ei bod yn dyddio o ddiwedd yr Oes Haearn (tua 0-OC50).
  • Mae'r llun ar ddolen dysgl yr Wyddfa'n edrych fel pen anifail. Mae rhai o'r farn mai cath ydyw. Mae'r defnydd addurnol o enamel (gwydr) coch yn nodweddiadol o arddull ddiweddar La Tène.
  • Mae ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan staff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi dangos mai crisialau copr ocsid mewn daliant yn y gwydr sy'n rhoi'r lliw coch hwn. Mae'n rhaid wrth amodau a reolir yn ofalus i greu'r lliw coch ac mae hyn yn dangos bod gweithwyr metel yr Oes Haearn yn deall eu gwaith yn dda.
  • Tua maint dysgl ffrwythau yw dysgl yr Wyddfa ac mae'n pwyso 203.4g. Mae'n mesur 150mm ar draws ac mae'n llai nag 1mm o drwch. Mae'r darn o'r ddolen sydd ar ôl yn mesur 77mm.