Brigwrn Capel Garmon

  • Darganfuwyd y brigwrn hwn ym 1852 ger fferm Carreg Goedog, Capel Garmon, ger Llanrwst, Conwy gan weithiwr fferm. Roedd ar ei ochr, yn ddwfn yn y mawn, gyda charreg fawr wedi'i rhoi ar y naill ben a'r llall iddo.
  • Mae'r ffordd yr oedd wedi'i osod a'r ffaith ei fod yn gyfan yn awgrymu ei fod wedi'i roi yno'n fwriadol. Tybed ai offrwm i un o'r duwiau neu'r duwiesau Celtaidd ydoedd? Roedd traddodiad cryf o gelcoffrymu eitemau metel mewn llynnoedd, corsydd ac afonydd yng Nghymru.
  • Byddai brigyrnau, weithiau fel pâr, yn cael eu gosod ar y naill ochr a'r llall i aelwyd ganolog mewn tŷ crwn. Efallai mai addurn ydoedd yn symbol o statws.
  • Mae pen a gwddf anifail ar y naill ben a'r llall i'r brigwrn. Mae'n debyg i geffyl neu darw, neu efallai mai creadur chwedlonol ydyw.
  • Roedd y gof a wnaeth y brigwrn hwn yn feistr ar ei grefft ac yn gallu llunio a gweithio'r haearn yn gelfydd. Roedd y gof yn cael parch mawr am ei fedrusrwydd yn y gymuned. Bryd hynny, roedd haearn yn ddefnydd newydd a ddefnyddiwyd yn gyntaf yng Nghymru yn nechrau cynharaf yr Oes Haearn (750CC).
  • Roedd haearn yn werthfawr i bobl yr Oes Haearn. Roedd yn rhaid wrth lawer o ymdrech a gwaith caled i'w greu. Mae brigwrn Capel Garmon mor gywrain fel y byddai wedi cymryd dros flwyddyn i'w wneud o adeg mwyndoddi'r haearn i'r darn gorffenedig.
  • Mae'n anodd gwybod pa mor hen yw'r brigwrn. Gan ei fod wedi'i ganfod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni fu modd archwilio'r man claddu yn ofalus. O'i gymharu ag eraill a ganfuwyd mewn claddfeydd penaethiaid yn ne ddwyrain Lloegr, awgrymir ei fod yn dyddio o'r Oes Haearn Ddiweddar (tua 50CC-OC50). Roedd claddfeydd y penaethiaid hynny hefyd yn cynnwys amfforâu gwin, darnau crochenwaith arbennig wedi'u llunio ar droell, a phethau eraill o statws uchel.
  • Mae brigwrn Capel Garmon tua'r un faint â'r ci Dulux. Mae'n 1060mm o hyd, 756mm o uchder ac mae'n pwyso dros 9kg.