Amgueddfa Cymru

A ddylem ni defnyddio'r term 'Celtiaid'?

Yn ddiweddar mae rhai academyddion, Simon James a John Collis yn fwyaf arbennig, wedi codi amheuon am y term 'Celtaidd'. Dywedant mai ychydig o gyfeiriadau a geir at y Celtiaid gan awduron clasurol.

Yn ystod y diwygiad Celtaidd cyntaf yn yr ail ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd y gair i ddiffinio teulu'r ieithoedd Celtaidd. Yn ôl ieithyddwyr, ceir dau deulu o ieithoedd Celtaidd: Celteg-Q neu Goideleg (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg) a Celteg-P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg). Yn y gorffennol, y gred oedd bod y ddau deulu ieithyddol yn cynrychioli dwy don o alllifiad Celtaidd o ganolbarth Ewrop i Brydain ac Iwerddon. Disodlwyd y ddamcaniaeth hon erbyn hyn. Un syniad yw bod yr ieithoedd Celtaidd wedi esblygu'n raddol dros ardal eang, yn hytrach na chychwyn yn sydyn o un ffynhonnell. Mae teulu'r ieithoedd Celtaidd yn un o'r gr┼Áp o ieithoedd Indo-Ewropeaidd sydd wedi esblygu ers dyddiau cynnar cynhanesyddol.

Erbyn hyn, credir bod y syniad o un 'Gymdeithas Geltaidd' a system gredo Geltaidd ledled Ewrop cyn goresgyniad y Rhufeiniad yn or-syml ac yn anghywir. Yn hytrach, mae'r dystiolaeth archaeolegol yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol cryfion, sy'n awgrymu brithwaith o gymdeithasau amrywiol dros Ewrop gyfan. Roedd gan bob un ei chredoau a'i harferion ei hunan. Wrth ddarllen y gorffennol fel hyn, gallwn ymfalch?o mewn dehongliad o gymdeithasau fel pethau amrywiol a deinamig.