Amgueddfa Cymru

Pwy Oedd y Celtiaid Cyntaf?

Yng ngwaith yr awduron Groegaidd, Hecataeus a Herodotus, y ceir y cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf y gwyddom amdanynt at y Celtiaid, yn ystod y bumed a'r chweched ganrif Cyn Crist (600-400CC). Roedd y Groegiaid yn eu galw'n Keltoi neu Galatae a'r Rhufeiniaid yn cyfeirio atynt fel y Celtae a'r Galli (neu'r Galiaid). Roedd trigolion ardal Môr y Canoldir yn eu hystyried yn bobl estron a barbaraidd a drigai i'r gogledd o'r Alpau.

Ni wyddom beth oedd enw'r Celtiaid arnyn nhw'u hunain. Efallai mai'r ffordd orau o edrych ar y byd Celtaidd cyn-Gristnogol yw fel brithwaith llac o unbenaethau a chymdeithasau, yn hytrach na fel ymerodraeth neu genedl. Siaradent nifer o ieithoedd a thafodieithoedd Celtaidd a oedd yn perthyn i'w gilydd.

Yn fuan ar ôl 400CC, mae awduron clasurol yn dweud bod nifer fawr o Geltiaid wedi symud o ganolbarth Ewrop, dros yr Alpau, i ogledd yr Eidal ac i ddwyrain Ewrop. Ymosodwyd ar Rufain yn ystod y 380au CC. Ceir cofnod gan y daearyddwr Strabo am gyfarfod cyfeillgar rhwng y Celtiaid ac Alecsander Fawr yn y Balcanau yn 335CC, a gwyddom i'r Celtiaid ysbeilio safle cysegredig y Groegiaid yn Delffi yn 279CC.