Amgueddfa Cymru

Geirfa

Amfforâu - Llestri seramig mawr sy'n cael eu defnyddio i gario hylifau megis gwin, olew olewydd a sawsiau ar gyfer pysgod. Byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer masnach dros y môr er mwyn cario'r nwyddau Rhufeinig hynod werthfawr yma o Fôr y Canoldir i bob cwr o'r Ymerodraeth a thu hwnt.

Bryngaerau - Lleiniau caerog wedi'u hadeiladu o bridd, coed neu gerrig, wedi'u lleoli fel arfer mewn safle hawdd i'w hamddiffyn, yn aml ar ben bryn. Cawsant eu hadeiladu yn ystod yr Oes Efydd Ddiweddar a thrwy gydol yr Oes Haearn.

Brythonig-Rufeinig - Yr enw a roddir ar y cyfnod pan fu Prydain yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig.

Byd Môr y Canoldir - Yn nhermau daearyddol a hinsawdd mae'r tirwedd sydd o gwmpas Môr y Canoldir yn cael ei ddefnyddio mewn gwrthgyferbyniad i'r term Ewrop Dymheraidd, ac yn cwmpasu'r ardaloedd lle'r oedd y Bydoedd Clasurol (Groegaidd a Rhufeinig).

Celc - Grŵp o wrthrychau a gladdwyd ar bwrpas, yn aml yn wrthrychau gwerthfawr. Y celc yw'r brif ffynhonnell o dystiolaeth ar gyfer yr Oes Efydd, er ei fod yn bwysig hefyd yn ystod yr Oes Haearn. Mae dehongliadau o pam claddwyd pethau yn amrywio o resymau crefyddol, neu gynyddu cyfoeth, hyd at gladdu yn ystod cyfnod o wrthdaro.

Celtiaid - Enw gwneud ethnig, sy'n dod o'r Roeg Keltoi a Celtae yn Lladin, a roddwyd i bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Cawsai ei ddefnyddio'n gyffredin mewn perthynas â phobl oedd yn defnyddio celfyddyd ÔGeltaidd' La Tne.

Cynhanes - Term â roddir gan archaeolegwyr i gyfnod cymdeithas cyn-lythrenog. Ym Mhrydain, cydnabyddir hyn yn gyffredinol fel cyfnod Cyn Crist a chyn Goresgyniad y Rhufeiniaid, er bod rhai cymdeithasau wedi dal gafael i'r traddodiad llafar.

Derwyddon - Dosbarth offeiriadol ym Mhrydain a Gâl yn ystod yr Oes Haearn. Dynion a menywod doeth, oedd yn wylwyr digwyddiadau yn y byd naturiol, yn athronwyr moesegol, yn storfeydd o wybodaeth, yn weinyddwyr cyfiawnder ac yn arolygwyr aberthau a defodau crefyddol. Roedd ganddynt rôl ddylanwadol iawn yng nghymdeithas yr Oes Haearn.

Dyddio radio-carbon - Dull cyffredin o ddyddio deunyddiau organaidd.

Dyddodion - Pan mae'n cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun rhodd neu gelc-offrwm, mae'r term yn golygu corff o ddeunyddiau a osodwyd yn fwriadol a gofalus i mewn i'r tir neu o dan y dŵr (fel arfer fel grŵp o wrthrychau). Mewn termau mwy cyffredinol mae dyddodyn yn golygu haenen unigol i archaeolegydd. Gall fod yn haen o bridd, naturiol neu wedi'i wneud gan ddyn, y mae modd ei adnabod drwy liw, teimlad a nodweddion. Mae safleoedd archaeolegol wedi'u creu allan o gyfres o ddyddodion, ac mae'r rhain yn gofnod o weithgareddau dros y blynyddoedd.

Gâl - Y term Rhufeinig ar gyfer rhanbarth sy'n cyfateb yn fras i Ffrainc fodern. Defnyddiwyd y term Galli mewn perthynas â Cheltiaid Ffrainc, ardaloedd Alpaidd a gogledd yr Eidal.

Goresgyniad y Rhufeiniaid - Goresgynnwyd de orllewin Lloegr gan y Rhufeiniaid yn OC43, ond ni chyrhaeddont de Cymru tan tua OC47. Ni feddiannwyd rhannau o ogledd Cymru'n llwyr tan OC78.

La Téne - Mae'r ffurf gelfyddydol archaeolegol hon yn nodweddiadol o sawl rhan o Ewrop ac Ynysoedd Prydain, o'r bumed ganrif CC ymlaen. Cafodd ei enwi ar ôl darganfyddiad mawr o wrthrychau a gwaith metel oedd yn gelc-roddion yn Llyn Neuchâtel, y Swistir.

Y Mabinogi - Cyfeiriad at y casgliad o chwedlau yn y Gymraeg o'r Canol Oesoedd, sydd â lle canolog mewn llenyddiaeth Gymraeg Ganoloesol. Maen nhw'n darparu mewnwelediad i fywyd, arferion a chymdeithas yng Nghymru'r Canol Oesoedd. Meddiannwyd gan y Rhufeiniaid - Term a ddefnyddiwyd i ddiffinio rheolaeth dros ardaloedd a phobloedd nad oedd o reidrwydd yn gefnogol i'r rheolaeth Rufeinig. Yn aml byddai angen parhau â phresenoldeb byddinoedd yn yr ardaloedd hyn. Parhaodd gogledd Cymru yn gyffindir trwy gydol y cyfnod Rhufeinig (OC60-40), tra Rhufeineiddwyd de ddwyrain Cymru yn llwyr.

Oes Efydd - Yr enw a roddwyd ar y cyfnod o gynhanes, sy'n cael ei nodweddu gan y gweithwyr metel efydd cynharaf a'u technolegau offer ac arfau. Ym Mhrydain mae'r cyfnod yn mynd o tua 2300CC - 750CC, yn union cyn yr Oes Haearn. Hefyd dyma'r amser pan oedd pobl yn cael eu claddu o fewn beddrodau gyda chofebau carn cerrig ac yn defnyddio cylchoedd defodol cerrig a phren (e.e. Côr y Cewri).

Oes Haearn - Term a ddefnyddiwyd gan archaeolegwyr i nodweddu'r cyfnod ddaeth wedi'r Oes Efydd a chyn y Rhufeiniaid, pan mai Haearn oedd prif ddeunydd gwneud offer ac arfau. Ym Mhrydain parhaodd o tua 750CC - 50 OC. Mae'r termau Cynnar, Canol a Diweddar yn cael eu defnyddio i greu is-rannau o fewn yr amser hwn. Mae'r Oes Haearn Gynnar yn para o tua 750-400CC, y cyfnod sy'n dod cyn ymddangosiad La Tne neu gelfyddyd Geltaidd ym Mhrydain. Ystyrid bod yr Oes Haearn Ganol fel arfer yn para drwy'r bedwaredd a'r ail ganrif CC (400 - 150/100 CC), a dyma gyfnod treigl arddulliau celfyddyd gynnar La Téne. Yn olaf mae arddulliau celfyddyd ddiweddar La Tne fel arfer wedi'u cyfyngu i'r Oes Haearn Ddiweddar (150/100CC - 50 OC).

Offrwm - Wedi'i roi fel rhodd i'r duwiau a'r duwiesau, yn llythrennol er mwyn cyflawni addewid.

Storfeydd grawn - Fel arfer roeddent wedi'u hadeiladu ar siâp hirsgwar wedi'u codi oddi ar y llawr i'w gwarchod rhag lleithder ac anifeilaid.

Trapesoid - Siâp pedwar ochr, sydd â'i ochrau yn anghyfochrog.

Trisgell - Motiff symbolaidd sy'n cynnwys tair coes yn deillio o'r un canolbwynt. Mae'n fotiff nodweddiadol o gelfyddyd La Téne yng Nghymru. Mae hefyd i'w weld ar y cyfandir.

Twffa - Enw daearegol ar gyfer dyddodion calchfaen meddal ger ffynhonnau.

Unbenaethau - Defnyddir i ddisgrifio cymdeithas sy'n gweithredu ar egwyddor lefelau (h.y. statws gymdeithasol wahaniaethol). Cawsai llinachau gwahanol eu graddio ar raddfa o bwysigrwydd, wedi'i benderfynu wrth ba mor agos oedd rhywun yn perthyn at y pennaeth. Roedd gan unbenaethau ganolfannau defodol neu seremon•ol parhaol fel arfer, ac maent yn cael eu nodweddu drwy arbenigedd lleol o fewn crefftau.