Yr Archif Sain

Silindrau Ffonograff a gasglwyd gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis

Gan na allai ysgrifennu hen nodiant na sol-ffa, dibynnai'r Fonesig Herbert Lewis yn drwm ar ei ffonograff Edison Standard i recordio'r caneuon. Dyfeisiwyd y cyntaf o'r peiriannau chwyldroadol hyn gan Thomas Edison yn 1877. Ymddangosodd y 'Standard' cludadwy yn 1898, a hwn oedd y model mwyaf poblogaidd am nifer o flynyddoedd. Er hynny, roedd ffonograffau yn bethau dieithr iawn i'r rhan fwyaf o boblogaeth wledig Cymru ac nid yw'n syndod deall bod sawl un o'r perfformwyr yn ofni canu i'r peiriant. Os medrid eu perswadio, byddent yn canu i drwmped y ffonograff, a fyddai'n cael ei ddal yn agos iawn i'r geg. Yn dilyn y recordio, byddai'r caneuon yn cael eu hadysgrifo gan gyfaill i'r Fonesig Herbert Lewis, y cerddor ifanc Morfudd Llwyn Owen, a fyddai'n aml yn eu perfformio mewn cyngherddau i'w chyfeiliant ei hun.

Rhestrir isod berfformwyr a theitlau y caneuon a drosglwyddwyd i gryno ddisg, fel y'u nodir ar y blychau silindr gwreiddiol.

  1. Jane Williams - i. Ffarwel i wlad; ii. O bachgen wyf (RealAudio 16.0Kbps)
  2. Jane Williams - ?
  3. Mr Roberts - Hela'r llwynog (RealAudio 16.0Kbps)
  4. R.Roberts, Smithy, Rhydyrarian - Cân llwynog
  5. Ifan Edwards, Nantglyn - Hen llanc (sic)?
  6. Miss Phillips, Castell Newydd Emlyn - Draw mi welodd
  7. Miss Phillips, Castell Newydd Emlyn - Cân yn nofio
  8. Mr George Nichols - Calls
  9. Rev. H.T. Jacob, Miss Harris; Rev. Symmonds - Y fwyalchen
  10. Male voice party - ?
  11. JHL (J.Herbert Lewis?) - Chanties (sic)
  12. ? - Mari Lwyd

[delwedd: Ffonograff Edison 'Standard', yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Ruth Herbert Lewis]

Ffonograff Edison 'Standard', yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Ruth Herbert Lewis

Nôl

Yr Archif Sain

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.