Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 

Nain


[delwedd: Nain]

Beth mae Nain yn ei wneud ar lan Llyn Mawr? Mae yna dri pheth sy'n dweud wrthom ni bod hwn yn fan arbennig. Beth ydyn nhw? Cliciwch ar y cartwnau i gael gwybod mwy.

[delwedd: Pen Carreg]

a) Pen carreg yw hwn. Efallai mai pen rhyw dduw yw e. Pa siâp yw'r llygaid? Ai dyn neu fenyw sydd yma?

[delwedd: Pen Pren]

b) Pen pren yw hwn. Pwy yw hwn?

[delwedd: Bowlen Pren]

c) Mae ŷd yn y bowlen bren. Offrwm yw hwn i rywun rydym ni'n credu sy'n byw yn y llyn.

Cliciwch yma am yr atebion?

a) Rydym ni'n credu mai pen duw, nid duwies sydd yma. Beth amdanoch chi?
b) Dydym ni ddim yn siŵr. Pen brenin neu dduw yw e efallai.
c) Roedd llynnoedd, afonydd a ffynhonnau yn fannau arbennig iawn - cysegredig. Dyma lle roedd y duwiesau'n byw.

Cliciwch yma i dilyn Nain eto...