Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 

Arian Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ers amser maith mae arian i'w arddangos a'i ddefnyddio wedi chwarae rôl bwysig yng nghartrefi teuluoedd cyfoethog Cymru.

Mae gan gasgliad yr Amgueddfa sawl enghraifft wiw gan ei wneud yn un o brif gasgliadau o arian Prydain yn y byd.

Mae goreuon y casgliad yn cynnwys basn a phiser arian euraid a wnaethpwyd yn Bruges tua 1561 oedd yn eiddo'n gyntaf i William Mostyn (1518-1576), Sir y Fflint. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y darn canol arian Prydeinig cynharaf i fwrdd, gwrthrych ysblennydd a wnaethpwyd ym 1730 gan Edward Feline i deulu Williams Bodelwyddan.

Hefyd mae arian pwysig o eiddo Syr Watkin Williams Wynn (1749-1789), Wynnstay, Sir Ddinbych megis y pethau ymolchi arian euraid gwych a wnaethpwyd gan Thomas Heming fel rhodd i wraig gyntaf Syr Watkin ac arian a gynlluniwyd yn y dull clasurol gan y pensaer Robert Adam yn y 1770au.

Hefyd yn yr Amgueddfa mae casgliad cyfeiriol a grynhowyd gan Syr Charles Jackson (1848-1923), Mynwy, ysgolhaig arloesol arian Prydain. Cryfder y casgliad yw arian yr 16eg a'r 17eg ganrif ac mae'n cynnwys cyfres heb ei hail o lwyau cynnar.

Mae'r Amgueddfa'n casglu ac arddangos arian cyfoes gan gynnwys casgliad cynyddol ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth P&O Makower.

» Nôl i Celf

Thomas Heming, punch bowl designed by Robert Adam for Sir Watkin Williams Wynn
Thomas Heming, punch bowl designed by Robert Adam for Sir Watkin Williams Wynn, 1771
StĂȘn a basn arian gydag arfbais William Mostyn, gwnaed yn Bruges tua 1561
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.